Cyflwyno cynllun datblygiad safle Brains yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae datblygwyr wedi cyflwyno cynlluniau i ailddatblygu safle bragdy Brains yng nghanol Caerdydd i fod yn gyrchfan fydd yn cynnwys bwytai a bariau.
Bwriad y datblygwyr, Rightacres Property, ydi datblygu ardal Cei Canolog, gan ddathlu treftadaeth a phensaerniaeth hen adeilad adnabyddus y bragdy.
Dywed y cwmni mai dyma un o'r datblygiadau eiddo mwyaf yn y sector preifat yn y DU, a'u gobaith yw y bydd y datblygiad yn hwb sylweddol i greadigrwydd ac entrepreneuriaeth canol y ddinas.
Fe fydd y datblygiad yn cynnwys ardal breswyl, ardaloedd masnachu ac ardaloedd i hamddena.
Bydd y rhan gyntaf o'r datblygiad yn cynnwys adeilad 'Ledger', sef y datblygiad swyddfeydd mwyaf yng Nghymru, a maes parcio aml lawr gyda lle i 650 o geir, yn ogystal â marchnad fwyd a neuadd dan do fawr, fydd yn mesur 15,000 troedfedd sgwâr.
Dywedodd Paul McCarthy, Prif Weithredwr Rightacres: "Bydd Cei Canolog yn creu pennod newydd ar gyfer y safle, sydd â hanes hir o syniadau newydd, creadigrwydd ac uchelgais.
"Fe fydd yr ardal yn rhan o ganolbwynt Caerdydd i fusnesau, ymwelwyr, ac yn gyrchfan cerddoriaeth fyw, bydd dewis eang o fariau a bwytai a chalendr o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal, megis gwyliau bwyd a chwrw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd22 Medi 2015