Dale Evans yn ymddeol 18 mis wedi gornest angheuol
- Cyhoeddwyd
Mae'r bocsiwr Dale Evans wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r gamp, 18 mis wedi marwolaeth ei wrthwynebydd Mike Towell.
Bu farw Towell, 25, yn yr ysbyty ddiwrnod ar ôl yn yr ornest yn erbyn Evans ym mis Medi 2016.
Roedd Evans, 26 oed o Gaerfyrddin, wedi addo ennill teitl Prydeinig fel coffa i Towell, ond fe gollodd yr ornest i'r pencampwr pwysau welter, Bradley Skeete.
Mae Evans yn ymddeol gyda record o 13 o fuddugoliaethau i'w enw.
Dywedodd wrth BBC Cymru fod ei "awydd a phenderfyniad i lwyddo yn y gamp wedi mynd".
Cafodd Towell ei daro i'r llawr yn rownd gyntaf yr ornest yng ngwesty'r Radisson Blu yn Glasgow, ond fe lwyddodd i barhau â'r ornest.
Fe benderfynodd y dyfarnwr ddod â'r ornest i ben yn y bumed rownd wedi i'r Albanwr gael ei lorio am yr eilwaith. Cafodd driniaeth yn y ring cyn cael ocsigen ac yna cael ei gludo mewn ambiwlans.
Mae Evans wedi bod yn lled awgrymu ers sawl wythnos ei fod yn barod i ymddeol ar ôl y golled yn erbyn Skeete.
"Ar ôl peth amser a gofyn nifer o gwestiynau i fy hun os oeddwn i am ymladd eto, cefais gynnig gornest fawr," meddai.
"Fel bob amser roeddwn am neidio ar y cyfle. Ond roedd yr awydd a'r penderfyniad i lwyddo ddim yno y tro hwn.
"Roeddwn i wedi dechrau poeni ac yn gofidio... dydw i ddim ofn cyfaddef hynny, a dyna pam dwi wedi gwneud y penderfyniad yma i ymddeol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2016