Apêl brys i adnewyddu llwybrau Pen y Fan sy'n dirywio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Gwenno Griffith o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod "yr angen yn fwy eleni"

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi lansio apêl brys i adnewyddu llwybrau ar fynydd Pen y Fan wrth i nifer yr ymwelwyr i'r ardal gynyddu.

Mae mwy o gerddwyr nag erioed bellach yn heidio i'r ardal boblogaidd ym Mannau Brycheiniog, meddai'r ymddiriedolaeth.

Gobaith yr elusen yw cwblhau gwaith adnewyddu cyn y cyfnod prysuraf o ran twristiaid.

Yn y pum mlynedd diwethaf mae'r nifer sy'n dod i'r ardal wedi dyblu, ac mae'r ymddiriedolaeth yn gwario £100,000 i gynnal a chadw'r llwybrau pob blwyddyn.

Llwybrau yn 'dirywio'

Dywedodd un o brif geidwaid y llwybrau, Rob Reith: "Mae'n ardal hyfryd ac mae'n boblogaidd gydag ymwelwyr.

"Ond gyda'r poblogrwydd daw dirywiad [y llwybrau]. Wrth edrych ar y ffigyrau diweddar mae hi'n ymddangos y bydd 2018 y flwyddyn brysuraf erioed o ran ymwelwyr.

"Rydyn ni angen sicrhau fod y llwybrau yn y cyflwr gorau posib ar gyfer hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn gyfrifol am ardal o'r Bannau Brycheiniog ers 30 mlynedd

Yn ôl yr ymddiriedolaeth, oherwydd nifer yr ymwelwyr a'r tywydd amrywiol bydd erydiad i'r llwybrau os na fydd gwaith cynnal a chadw'n digwydd.

Yn y gorffennol mae hyn wedi achosi creithiau o 30-40 metr yn y tirwedd.

Dywedodd Joe Daggett, sy'n rheolwr cefn gwlad ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberhonddu: "Mae gennym gyfrifoldeb i edrych ar ôl yr ardal er lles natur ac i bobl allu mwynhau.

"Er mwyn gwneud hyn, rydym yn ddibynnol ar gefnogaeth yn ogystal â'n staff brwdfrydig a gwirfoddolwyr."