Polisi'n 'methu dwy ran o dair o'r plant tlotaf'

  • Cyhoeddwyd
TlodiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sy'n byw yn ardaloedd tlotaf Cymru

Mae un o brif bolisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yn methu â chyrraedd bron i ddwy ran o dair o'r plant tlotaf yng Nghymru, yn ôl pwyllgor Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn dweud fod "angen cryn newid os yw'r rhaglen Dechrau'n Deg ar gyfer y blynyddoedd cynnar am lwyddo i gyrraedd y rheiny sydd â'r angen mwyaf am gymorth".

Ers ei chyflwyno yn 2007 mae Dechrau'n Deg wedi derbyn bron i £600m ac mae'n helpu teuluoedd sy'n byw yn ardaloedd tlotaf Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n "parhau i gefnogi cymaint o deuluoedd â phosibl trwy'r rhaglen".

Mae pedair elfen i'r rhaglen: gofal plant rhan-amser am ddim i blant dwy i dair oed; gwasanaeth ymweliadau iechyd gwell; mynediad i rieni gael cymorth; a mynediad at gymorth datblygu iaith.

'Ffocws daearyddol'

Ond yn ôl y pwyllgor mae bron i ddwy ran o dair o deuluoedd tlotaf Cymru yn byw y tu allan i'r ardaloedd daearyddol y mae Dechrau'n Deg yn eu cwmpasu.

O ganlyniad, maen nhw'n dweud y bydd "nifer sylweddol o blant yn byw mewn tlodi a fyddai'n debygol o gael eu heithrio rhag cymorth Dechrau'n Deg".

Disgrifiad,

Mae AC Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd yn aelod o Bwyllgor Plant, Ieuenctid ac Addysg yn y Cynulliad

Mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru'n ystyried "a oes angen ailystyried ffocws daearyddol y rhaglen Dechrau'n Deg er mwyn galluogi'r rhai sydd fwyaf mewn angen i gael cymorth".

Mae cynghorau yn gallu rhoi rhywfaint o gymorth i deuluoedd sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, ond dywedodd yr ACau bod y gwasanaethau "allgymorth" yma'n gyfyngedig.

Dywedodd yr adroddiad: "Roedd y pwyllgor yn siomedig iawn i ddarganfod, wrth gymryd tystiolaeth, y graddau cyfyngedig yr oedd plant yn elwa ar y gwasanaethau allgymorth mewn llawer o awdurdodau lleol, o ran nifer y cyfranogwyr - mewn rhai achosion cyn lleied â phump o blant mewn ardal awdurdod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod mwy na 37,000 o blant wedi elwa o'r rhaglen

Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Darren Millar, bod angen cael gwared ar "loteri côd post Dechrau'n Deg, sy'n eithrio teuluoedd mewn angen ar sail eu cyfeiriad yn unig".

"Mae'r cynllun angen diwygiad radical i'w wneud yn fwy hyblyg ac ar gael trwy Gymru gyfan fel y gall cynghorau ddarparu help a chefnogaeth i'r rheiny sydd ei angen fwyaf," meddai.

'37,600 yn elwa'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu adroddiad y pwyllgor a byddwn yn ymateb iddo yn llawn maes o law".

"Mae rhoi'r dechrau gorau posibl i blant mewn bywyd yn flaenoriaeth i ni," meddai llefarydd.

"Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen ymyrraeth gynnar allweddol, gan helpu i wella cyfleoedd bywyd plant mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

"Yn 2016/17, roedd mwy na 37,600 o blant yn elwa o wasanaethau Dechrau'n Deg a byddwn yn parhau i gefnogi cymaint o deuluoedd â phosibl trwy'r rhaglen."