Aelod UKIP yn symud swyddfa wedi anghydfod â Hamilton

  • Cyhoeddwyd
mandy neil
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mandy Jones yn gobeithio y bydd symud swyddfa yn helpu lleddfu'r tensiwn ar ôl yr anghydfod cyhoeddus rhyngddi hi a Neil Hamilton

Mae Aelod Cynulliad wedi symud ei swyddfa i adeilad arall ar ôl anghydfod gydag aelodau ei phlaid ei hun.

Fe ddaeth Mandy Jones yn AC dros Ogledd Cymru wedi i Nathan Gill ymddiswyddo ym mis Rhagfyr.

Er bod Mandy Jones wedi ennill ei lle yn y Cynulliad yn enw UKIP, ni chafodd ei derbyn gan grŵp y blaid yn y Senedd.

Yn ddiweddarach fe gyfeiriodd Ms Jones at y grŵp fel criw "gwenwynig".

Mae'r BBC ar ddeall fod Ms Jones wedi symud ei swyddfa o Dŷ Hywel lle mae swyddfeydd ACau, i hen safle siop y cynulliad yn adeilad y Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Mandy Jones: "Gallaf gadarnhau bod Mandy Jones AC wedi symud swyddfeydd ar ôl cais gan Mandy i helpu i leddfu tensiwn ar ôl yr anghydfod cyhoeddus rhyngddi hi a Neil Hamilton".

Ychwanegodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad: "Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymateb i geisiadau aelodau ar gyfer newidiadau i'w llety swyddfa yn unol â'i ddyletswydd statudol i sicrhau bod gan yr aelodau yr adnoddau a'r gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni eu cyfrifoldebau fel cynrychiolwyr etholedig."

Mae UKIP wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater