Methiant y Doctor Who Experience yn costio £1.15m

  • Cyhoeddwyd
Doctor Who ExperienceFfynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Doctor Who Experience agor ym Mae Caerdydd yn 2012

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud colled o £1.147m yn dilyn methiant atyniad Doctor Who Experience y BBC ym Mae Caerdydd.

Fe wnaeth y cyngor dalu i adeiladu'r safle a'r gobaith oedd y bydden nhw'n adennill y gost trwy gael cyfran o werthiant tocynnau.

Mae'r adeilad ym Mae Caerdydd wedi bod yn wag ers i'r Doctor Who Experience gau ym mis Medi y llynedd.

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer y safle.

'Rhagolygon uchelgeisiol'

BBC Worldwide yw cangen fasnachol y BBC, ac mae'n gyfrifol am ledaenu brand y BBC ar draws y byd a chreu cynulleidfa byd eang.

Fe wnaeth perchnogion y tir, sef Llywodraeth Cymru, rentu'r safle i Gyngor Caerdydd, ac yn 2011 fe wnaeth y cyngor gytuno gyda'r BBC i gartrefu'r Doctor Who Experience yno.

Fe wnaeth y cyngor wario mwy na £2m yn ei adeiladu.

Yna, cafodd yr adeilad ei rentu i BBC Worldwide yn 2012, ac fel rhan o'r cytundeb roedd y cyngor i dderbyn cyfran o werthiant tocynnau fel y gall adennill y gost o adeiladu'r ganolfan hyd at £2.4m.

Fe wnaeth yr atyniad gau ym mis Medi wedi i'w les pum mlynedd ddod i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Doctor Who Experience gau ym mis Medi y llynedd

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, aelod cabinet y cyngor dros fuddsoddi a datblygu, bod y cytundeb gyda'r BBC wedi'i wneud yn dilyn "rhagolygon uchelgeisiol" am nifer yr ymwelwyr y byddai'r ganolfan yn ei ddenu.

"Yn anffodus, chafodd yr atyniad y nifer ddisgwyliedig o ymwelwyr, gan adael colled ddylai fod wedi'i adennill trwy werthiant tocynnau," meddai.

Trethdalwyr Caerdydd fydd yn gorfod ysgwyddo'r baich ariannol, a dywedodd y Cynghorydd Goodway y bydd y golled yn dod allan o gyllideb y cyngor dros gyfnod o saith mlynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Worldwide bod y les wedi rhedeg am dymor llawn o bum mlynedd, ac nad oedd cytundeb i'w ymestyn.

"Ni allwn wneud sylw ar gynllun busnes Cyngor Caerdydd ar gyfer y safle," meddai.