Cymru i herio Mecsico yn California ym mis Mai

  • Cyhoeddwyd
Cymru v MecsicoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i'r ddwy wlad gwrdd oedd yn New Jersey yn 2012

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd y tîm cenedlaethol yn herio Mecsico mewn gêm gyfeillgar yn ninas Pasadena, California, ym mis Mai.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn stadiwm y Rose Bowl ar 28 Mai.

Dywedodd y rheolwr, Ryan Giggs bod y gêm yn "gyfle gwych i ni brofi'n hunain yn erbyn carfan fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd".

"Mae'r Rose Bowl yn stadiwm aruthrol a bydd chwarae yno'n brofiad gwych i'r holl chwaraewyr," meddai.

Gallai Cymru fod heb Gareth Bale ar gyfer y gêm os fyddai ei glwb, Real Madrid yn cyrraedd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chwarae deuddydd ynghynt.

Hon fydd y bedwaredd gwaith i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd, gyda Chymru wedi colli dwy a chael un gêm gyfartal yn y tair hyd yn hyn.