Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 37-27 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Cymru o ennill y Chwe Gwlad ar ben wedi i Iwerddon lwyddo i ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth mewn gêm gyffrous yn Nulyn brynhawn Sadwrn.
Cymru sgoriodd bwyntiau cynta'r gêm trwy gôl gosb Leigh Halfpenny, ond y tîm cartref gafodd y cais cyntaf wrth i Jacob Stockdale groesi yn y gornel ychydig funudau'n ddiweddarach.
Fe fethodd Jonathan Sexton i'w throsi, ac yr un oedd ei hanes gyda'i ddwy gic gosb gyntaf hefyd.
Aeth Cymru yn ôl ar y blaen wedi 20 munud, gyda'r mewnwr Gareth Davies yn torri trwy amddiffyn y Gwyddelod a thirio mewn safle hawdd i Halfpenny ei throsi.
Ychwanegodd y cefnwr gôl gosb 10 munud yn ddiweddarach, cyn i Sexton sgorio triphwynt gyda'i bedwaredd ymdrech am y pyst.
Sgoriodd y canolwr Bundee Aki reit ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ac fe wnaeth Sexton ei throsi i'w gwneud yn 15-13 i'r Gwyddelod ar yr egwyl.
Iwerddon gafodd y dechrau gorau i'r ail hanner hefyd, gyda'r blaenasgellwr Dan Leavy yn croesi am eu trydydd cais.
Llwyddodd Sexton i'w throsi, cyn i'r Gwyddelod sicrhau'r pwynt bonws gyda 25 munud yn weddill wrth i'r prop Cian Healy sgorio.
Fe wnaeth Cymru daro 'nôl gyda chais gan Aaron Shingler - ei gais rhyngwladol cyntaf - a llwyddodd Halfpenny gyda'r trosiad anodd o'r gornel.
Aeth y tîm cartref 10 pwynt ar y blaen gyda phum munud yn weddill, gyda'r mewnwr Conor Murray yn llwyddo gyda chic gosb.
Fe wnaeth yr asgellwr Steff Evans sgorio eiliadau'n unig ar ôl hynny, gyda Halfpenny'n llwyddiannus gyda'r trosiad unwaith eto.
Ond Iwerddon gafodd y gair olaf, wrth i Stockdale sgorio ei ail gais o'r gêm o ryng-gipiad, gyda Murray yn llwyddo gyda'r trosiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2018