'Canlyniad yn bwysicach na chanfed gêm' i Warren Gatland
- Cyhoeddwyd
Yn ei ganfed gêm fel prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, mae Warren Gatland wedi dweud bod y "perfformiad a'r canlyniad" yn bwysicach iddo na chyrraedd unrhyw garreg filltir.
Bydd Cymru yn gwneud y daith i Stadiwm Aviva ddydd Sadwrn i wynebu Iwerddon yn eu trydedd gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae Cymru eisoes wedi ennill gartref yn erbyn Yr Alban a cholli yn Twickenham yn erbyn Lloegr.
Mae Cymru wedi derbyn hwb yn ystod yr wythnos wrth i Dan Biggar, Leigh Halfpenny a Liam Williams ddychwelyd i'r tîm.
Dyw'r wythwr Taulupe Faletau, y maswr Rhys Patchell na'r asgellwr Josh Adams yn rhan o'r garfan o 23 fydd yn herio'r Gwyddelod.
Fel yn erbyn Lloegr bydd yr asgellwr George North yn dechrau ar y fainc.
Dyw Iwerddon heb ennill mewn tair gêm yn erbyn Cymru yn y Chwe Gwlad, gyda Chymru yn ennill yn Stadiwm Principality o 22-9 y llynedd.
Bydd y Gwyddelod heb y prop Tadhg Furlong na'r clo Iain Henderson ar gyfer y gêm, gydag Andrew Porter a James Ryan yn cymryd eu lle.
Bydd Gatland yn gobeithio ychwanegu at ei gyfanswm o ennill 50 gem tra'n brif hyfforddwr Cymru, ond mae'n gwybod bydd hynny'n dalcen caled.
"Mae'n anrhydedd [cyrraedd y 100], ond dim rhywbeth i edrych yn ôl arno yw e," meddai.
Ychwanegodd: "Y gêm sy'n bwysig y penwythnos yma... mae oll am y chwaraewyr, y perfformiad a'r canlyniad. Mae hynny'n bwysicach na fi'n cyrraedd 100 o gemau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2018