Cau ffordd am 10 wythnos i dorri coed sydd â chlefyd
- Cyhoeddwyd
Bydd ffordd rhwng Cwm Rhondda a Chwm Cynon yn cael ei chau am 10 wythnos i goed sydd â chlefyd gael eu torri.
Fe fydd y ffordd rhwng Tafarn Brynffynnon a Pleasant View, Llanwynno, ar gau o ddydd Llun nes 6 Mai.
Bydd dargyfeiriad mewn lle tra bo Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn torri'r coed llarwydd, sydd â Phytophthora ramorum, neu glefyd coed llarwydd.
Fe fydd yr ardal yn wag am hyd at ddwy flynedd, cyn cael ei ailblannu gyda chymysgedd o goed conwydd a rhywogaethau coetir brodorol.
Dywedodd llefarydd o CNC: "Rhaid i ni gwympo'r coed ffawydd sy'n tyfu ar hyd ymyl y ffordd gan y byddant yn ansad yn y gwynt, ar ôl cael gwared â'r coed llarwydd gerllaw.
"Mae yna berygl y gallant syrthio ar y ffordd ac achosi damwain."
Bydd pren y coed llarwydd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu deunydd ffensio, papur, bwrdd sglodion, biodanwydd, paledau pren, neu mewn deunydd adeiladu.