Dim cyhuddiadau am fflôt 'hiliol' Carnifal Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi penderfynu peidio dwyn unrhyw gyhuddiadau yn erbyn pedwar person wnaeth dduo eu hwynebau ar gyfer fflôt carnifal yng Ngheredigion.
Cafodd y criw eu cyhuddo o hiliaeth wedi iddyn nhw liwio'u croen yn ddu fel rhan o fflôt yng Ngharnifal Aberaeron fis Awst y llynedd.
Roedden nhw'n portreadu cymeriadau tîm bobsled Jamaica o'r ffilm enwog o 1993, Cool Runnings.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cynnal "ymchwiliad llawn" a chymryd datganiadau gan y rheiny oedd yn bresennol yn y carnifal cyn penderfynu peidio cymryd camau pellach.
'Hollo annerbyniol'
Roedd Cool Runnings yn ffilm o 1993 oedd yn seiliedig yn fras ar stori wir y tîm bobsled cyntaf o Jamaica i gystadlu mewn Gemau Olympaidd, a hynny yn 1988.
Ond cafodd y fflôt ei beirniadu gan y blaid Lafur yng Ngheredigion, a ddywedodd ei bod yn "hollol annerbyniol fod ymgeiswyr wedi duo eu hwynebau a gwisgo wigs cyrliog".
"Yn syml, hiliaeth yw hyn, boed hynny'n fwriadol ai peidio, ac ar y gorau mae'n awgrymu nad yw'r rhai oedd yn gyfrifol yn ymwybodol o'r hanes ofnadwy a'r cysylltiadau gyda duo wynebau," meddai'r datganiad ar y pryd.
Ychwanegodd Dinah Mulholland, ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngheredigion yn etholiad cyffredinol 2017: "Mae gan orllewin Cymru gysylltiadau cryf â'r fasnach caethwasiaeth, ac mae modd gweld y gwaddol gwarthus hwnnw yn nhraddodiad y minstreliaid a'r duo wynebau.
"Rydym yn galw ar drefnwyr Carnifal Aberaeron, a'n cynghorwyr sir a chymunedol i gydnabod y loes a'r tramgwydd mae hyn yn ei achosi, ac i feirniadu'r arfer o dduo wynebau ac unrhyw ffurf arall ar hiliaeth yng Ngheredigion."
Ond fe wnaeth rhai o drigolion Aberaeron amddiffyn y fflôt a chyhuddo Ms Mullholland o orymateb.
Ymddiheuriad
Yn ddiweddarach fe wnaeth tîm bobsled Jamaica ddweud bod aelodau'r fflôt wedi cysylltu gyda nhw "i gynnig ymddiheuriad am ansensitifrwydd am baentio'u hwynebau'n ddu".
"Rydym yn hoffi cymryd y cyfleoedd hyn i addysgu, yn hytrach na lladd ar bobl. Dydyn ni ddim yn credu eu bod wedi golygu unrhyw falais," meddai tîm Jamaica.
"Rydym hefyd yn diolch iddynt am eu rhodd hael mewn cefnogaeth i'n tîm."
Ar y pryd fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cwyn o hiliaeth a'u bod yn ymchwilio i'r mater.
Ond mewn datganiad ddydd Llun dywedodd llefarydd: "Cafodd y digwyddiad ei ymchwilio'n llawn, ond chafodd neb eu harestio na'u cyhuddo.
"Rydyn ni wedi siarad â'r bobl berthnasol, ac wedi diweddaru'r bobl oedd wedi adrodd am y digwyddiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2017
- Cyhoeddwyd1 Medi 2017