S4C yn briffio cystadleuwyr Cân i Gymru am sylwadau cas

  • Cyhoeddwyd
Cân i GymruFfynhonnell y llun, S4C

Ar drothwy cystadleuaeth Cân i Gymru 2018, mae S4C wedi cadarnhau y byddan nhw'n briffio cystadleuwyr rhag i sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol beri loes iddyn nhw.

Dywedodd yr orsaf y byddan nhw'n cynnig cyngor am y tro cyntaf eleni, am fod rhai wedi "teimlo dan bwysau oherwydd sylwadau negyddol" yn y gorffennol.

Mae'r rhaglen yn denu ymateb di-ri gan wylwyr, ond llynedd fe wnaeth un o'r cystadleuwyr ddioddef trolio a sylwadau sarhaus am ei phwysau.

Roedd Caitlin McKee, a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth y llynedd yn canu cân gospel 'Fy Nghariad Olaf I' i gan Richard Vaughan ac Andy Park.

Mae S4C wedi cadarnhau na fydd negeseuon Twitter yn cael eu dangos ar y sgrin eleni ond bydd rhai sylwadau yn cael eu darllen "os ydyn nhw'n rhai adeiladol ac yn deg â'r holl gystadleuwyr".

'Rhy bell'

Dywedodd Ms McKee fod y sylwadau "wedi mynd yn rhy bell" ar ôl i "bedwar person yn benodol" wneud sylwadau am ei phwysau.

"Os ydyn nhw'n gwneud comments negyddol am y gân, fyswn i ddim wedi meindio, achos dyna beth mae'r gystadleuaeth amdano - mae hynna'n fine - pawb a'i farn.

"Ond os ydyn nhw'n siarad am ferch ifanc, am ei chorff hi a sut mae hi'n edrych... mae'n mynd lot rhy bell. Keyboard warriors ydyn nhw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Caitlin McKee yn drydydd yn y gystadleuaeth y llynedd

Am y tro cyntaf, bydd Cân i Gymru yn cael ei chynnal yng nghanolfan Pontio, Bangor nos Iau, ac mae S4C wedi dweud fod "gwarchod lles cyfranwyr yn bwysig."

Ychwanegodd Ms McKee nad oedd perfformwyr wedi cael rhybudd gan y rhaglen am ymateb negyddol posibl ar y cyfryngau cymdeithasol llynedd.

Ond eleni mae S4C wedi penderfynu briffio cystadleuwyr cyn y gystadleuaeth.

Mae'r sianel yn "annog pobl i ystyried impact eu geiriau cyn postio negeseuon a all achosi loes i unrhyw un."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Can i Gymru yn digwydd yng Nghanolfan Pontio ym Mangor

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi tyfu'n rhan fawr o'r profiad o wylio rhaglenni teledu erbyn hyn, ac mae digwyddiad byw fel Cân i Gymru yn sbarduno llawer o drafod.

"Mewn blynyddoedd blaenorol, fe estynnwyd cymorth a chyngor ar ôl y gystadleuaeth i rai oedd yn teimlo dan bwysau oherwydd sylwadau negyddol, ac eleni mi fydd y cystadleuwyr yn cael eu briffio a'u cynghori ymlaen llaw, rhag ofn fod carfan o'r ymateb yn effeithio'n negyddol arnyn nhw.

"Mae S4C yn croesawu gwylwyr sy'n dewis rhyngweithio â rhaglenni'r sianel mewn ffordd adeiladol, ond yn anffodus rydym wedi gweld enghreifftiau yn y gorffennol ble mae'r sgyrsiau yn troi yn bersonol.

"Tra bod hynny y tu hwnt i reolaeth S4C, mae'r sianel yn annog pobl i ystyried impact eu geiriau cyn postio negeseuon a all achosi loes i unrhyw un."

Cân i Gymru, S4C, 20:00 dydd Iau, 1 Mawrth. Dilynwch #cig2018 am y diweddaraf ar Twitter.