Cân i Gymru a Twitter: Ydy'r 'trolio' wedi mynd rhy bell?
- Cyhoeddwyd
Mae gwylio cystadleuaeth Cân i Gymru a mynd i hwyl ar Twitter yn mynd law yn llaw ers ychydig o flynyddoedd bellach - ond ai hwyl diniwed ydy o?
Nage meddai un cyn-gystadleuydd a darodd nôl yn erbyn trolwyr Twitter a wnaeth sylwadau personol am ei phwysau a'r ffordd roedd hi'n edrych ar raglen Cân i Gymru 2017.
Mae sylwadau negyddol ar y cyfrwng cymdeithasol wedi mynd yn rhy bell yn ôl Caitlin McKee, a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth y llynedd yn canu cân gospel Fy Nghariad Olaf I gan Richard Vaughan ac Andy Park.
Roedd canu yn "brofiad anhygoel" a phositif i'r berfformwraig sy'n falch o alw ei hun yn "actores a chantores plus size".
Ond pan edrychodd ar Twitter ar ôl cystadlu doedd hi ddim wedi disgwyl gorfod cyfiawnhau'r ffordd roedd hi'n edrych.
"Roedd pedwar person yn benodol wedi dweud stwff am pwysau fi, am sut o'n i'n edrych, cymharu fi i Gemma Collins, Michelle McManus... a dynion o'n nhw i gyd," meddai Caitlin.
"Os ydyn nhw'n gwneud comments negyddol am y gân fyswn i ddim wedi meindio achos dyna beth mae'r gystadleuaeth amdano - mae hynna'n fine - pawb a'i farn.
"Ond os ydyn nhw'n siarad am ferch ifanc, am ei chorff hi a sut mae hi'n edrych...
"Mae'n mynd lot rhy bell. Keyboard warriors ydyn nhw.
"Nes i anfon neges nôl gyda linc i ffilm am online trolls o'n i wedi ei gweld ar wefan y Guardian yr wythnos gynt a dweud 'gwyliwch hwn a gweld mai dyma beth ydych chi'n ei wneud i fi'," meddai.
Er fod Caitlin wedi ateb yn ôl mae'r profiad wedi gadael "blas annifyr" ar ei ôl a'i gwneud yn bryderus am yr effaith y gallai'r cyfryngau cymdeithasol ei gael ar bobl ifanc sy'n llai hyderus na hi.
Yn ôl Caitlin, sy'n 26, chafon nhw fel perfformwyr ddim rhybudd gan y rhaglen am ymateb negyddol posibl ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Sa i'n credu bod y bobl sy'n cystadlu ynddo fe actually yn gwybod pa mor bell mae'n mynd - dydyn nhw ddim yn briffio chi am social media na dim byd cyn ichi wneud e," meddai.
"Os bydde fe'n rhywun arall oedd ddim wedi arfer efo'r busnes neu ddim mor groen-drwchus â fi, gallai hwnna rili wedi cael effaith.
"Ni gyd yn cael laff a ni gyd yn rhoi stwff ar Twitter ac os bydde fe jyst am y gân, fydden i ddim yn meindio.
"Ond os yw e'n bersonol fi ddim yn gweld pa hawl sydd gan ddynion i wneud hynna i ferched ifanc, a dyna'r thing - dynion ydyn nhw," meddai Caitlin.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi tyfu'n rhan fawr o'r profiad o wylio rhaglenni teledu erbyn hyn, ac mae digwyddiad byw fel Cân i Gymru yn sbarduno llawer o drafod.
"Mae gwarchod lles cyfranwyr yn bwysig iawn i S4C ac i'r gystadleuaeth.
"Mewn blynyddoedd blaenorol, fe estynnwyd cymorth a chyngor ar ôl y gystadleuaeth i rai oedd yn teimlo dan bwysau oherwydd sylwadau negyddol, ac eleni mi fydd y cystadleuwyr yn cael eu briffio a'u cynghori ymlaen llaw, rhag ofn fod carfan o'r ymateb yn effeithio'n negyddol arnyn nhw.
"Mae S4C yn croesawu gwylwyr sy'n dewis rhyngweithio â rhaglenni'r sianel mewn ffordd adeiladol, ond yn anffodus rydym wedi gweld enghreifftiau yn y gorffennol ble mae'r sgyrsiau yn troi yn bersonol.
"Tra bod hynny y tu hwnt i reolaeth S4C, mae'r sianel yn annog pobl i ystyried impact eu geiriau cyn postio negeseuon a all achosi loes i unrhyw un."
Ychydig wedi ymddangos yn y gystadleuaeth aeth Caitlin nôl i'w hen ysgol yng Nghaerdydd i siarad gyda merched yr ysgol am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac fe gafodd fraw.
"Mae'r ffordd mae plant yn cael eu siarad amdano ar y we nawr yn codi ofn arna i achos bod nhw'n becso shwd gymaint am sut maen nhw'n edrych ac am gael eu barnu," meddai.
"Ac os ydyn nhw'n gweld pobl fel fi yn cael hynna hefyd, fi'n meddwl mae pobl yn meddwl wedyn bod e'n OK i ddweud beth bynnag maen nhw moyn am rywun."
Dim ond llond llaw o negeseuon sarhaus gafodd hi, meddai, ac fe gafodd rai hefyd gan ferched yn dweud "pa mor neis yw gweld merch fel fi ar y llwyfan".
"Fi'n meddwl bod tueddiad yng Nghymru fod pobl yn hoffi rhoi'r ochr negatif - maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n gallu dweud beth maen nhw moyn - yn enwedig ar Cân i Gymru.
"Does dim byd maen nhw'n gallu ei wneud am [y rhaglen]. Dyna pam wnaethon nhw stopio'r wal yn dangos negeseuon Twitter achos fod stwff negyddol yn dod lan."
Mae S4C wedi cadarnhau na fydd negeseuon Twitter yn cael eu dangos ar y sgrîn eleni ond bydd rhai sylwadau yn cael eu darllen "os ydyn nhw'n rhai adeiladol ac yn deg â'r holl gystadleuwyr".
I Caitlin, mae'n bwysig bod pobl ifanc yn gallu gweld rhywun fel hi ar y teledu.
"Fi yn gantores ac actores plus size, fi ddim yn ofni hynna, fi'n prowd o hynna, ac os oedd un merch neu fachgen wedi gwylio a meddwl actually 'sdim rhaid bod yn denau neu'n rhyw fath o siâp penodol... byddai hynny'n gwneud fi'n hapus.
"Os ydyn ni i gyd yn edrych yr un peth ac yn ffitio mewn i'r mowld o beth mae cymdeithas yn meddwl y dylen ni edrych fel 'dyw merched a bechgyn ifanc sy'n wahanol ddim yn mynd i weld unrhyw un i edrych lan iddyn nhw - a fi ddim yn meindio bod y person yna maen nhw'n gallu edrych lan i."
Cân i Gymru, S4C, 20:00 dydd Iau, 1 Mawrth. Dilynwch #cig2018 am y diweddaraf ar Twitter.