Prop i fethu gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
wyn jonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe fydd y prop rhyngwladol, Wyn Jones, yn methu gweddill gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf.

Fe wnaeth y chwaraewr 26 oed ddioddef anaf i linyn y gar yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn yn Nulyn.

Dywed llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru fod Jones wedi dychwelyd i'w ranbarth, Y Scarlets, er mwyn parhau gyda'i adferiad.

Nid yw Warren Gatland wedi galw unrhyw chwaraewr arall i gymryd lle Jones hyd yma.

Bydd gêm nesaf Cymru yn y bencampwriaeth yn erbyn Yr Eidal ar 11 Mawrth.