Catalunya: Plaid yn beirniadu camau yn erbyn Guardiola
- Cyhoeddwyd
Mae ASau Plaid Cymru wedi beirniadu Cymdeithas Bêl-droed Lloegr am ddwyn cyhuddiadau yn erbyn rheolwr Manchester City oherwydd ei gefnogaeth i wleidyddion yng Nghatalunya.
Cafodd Pep Guardiola ei gyhuddo gan yr awdurdodau'r wythnos diwethaf wedi iddo wisgo rhuban melyn - symbol o gefnogaeth i'r mudiad annibyniaeth yno - ar ei siaced yn ystod gêm.
Roedd y rheolwr, sydd yn dod o Gatalunya, eisoes wedi cael ei rybuddio ddwywaith ym mis Rhagfyr am wisgo'r rhuban.
Dywedodd ASau Plaid Cymru fod Guardiola yn dangos "safbwynt dewr" wrth wisgo'r symbol, gan alw ar Lywodraeth y DU i ddweud wrth Lywodraeth Sbaen "barchu ewyllys pobl Catalunya".
'Democratiaeth'
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cyhuddo rheolwr Manchester City o dorri rheolau yn ymwneud â chit a hysbysebu, sydd yn dweud nad oes hawl dangos sloganau gwleidyddol.
Ond mae Guardiola, 47, wedi mynnu y bydd yn parhau i wisgo'r rhuban, hyd yn oed os oes rhaid iddo dalu dirwy.
"Cyn mod i'n rheolwr, dwi'n fod dynol," meddai.
"Maen nhw'n gwybod y byddai wastad yn gwisgo'r rhuban melyn. Nid am wleidyddion yw hyn, ond democratiaeth - mae e i'w wneud gyda helpu pobl sydd wedi gwneud dim."
Ar 1 Hydref 2017 fe wnaeth llywodraeth Catalunya gynnal refferendwm ar annibyniaeth, gyda 92% yn pleidleisio o blaid hollti gyda Sbaen.
Ond fe wnaeth y pleidiau unoliaethol alw ar eu cefnogwyr nhw i beidio â chymryd rhan yn y bleidlais, wedi i Lywodraeth Sbaen ddatgan fod y refferendwm yn un anghyfreithlon.
Cafwyd golygfeydd treisgar ar strydoedd Barcelona ar ddiwrnod y bleidlais wrth i heddlu ac awdurdodau Sbaen geisio atal y bleidlais rhag digwydd.
Ers hynny mae rhai o ffigyrau amlwg y mudiad annibyniaeth wedi eu carcharu ac fe wnaeth prif weinidog Catalunya, Carles Puigdemont ddianc i Frwsel i osgoi cael ei arestio.
'Datrysiad heddychlon'
Mae'r pedwar AS o Blaid Cymru bellach wedi cyflwyno cynnig dydd cynnar yn San Steffan yn "cymeradwyo Pep Guardiola am ei safbwynt dewr wrth gefnogi arweinwyr annibyniaeth Catalunya sydd wedi'u carcharu'n anghyfiawn".
Ychwanegodd Jonathan Edwards AS: "Mae gweithredoedd Llywodraeth Sbaen wrth garcharu ei gelynion gwleidyddol yn wrthun i'r egwyddorion democrataidd sydd i'w disgwyl gan wladwriaeth Ewropeaidd a chynghreiriad i'r DU.
"Mae angen condemnio penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr i ddwyn cyhuddiadau yn erbyn rheolwr Manchester City am ddangos ei gefnogaeth i arweinwyr etholedig y wlad.
"Dylai Llywodraeth y DU fod yn rhoi pwysau mawr ar eu cynghreiriaid ym Madrid i barchu ewyllys pobl Catalunya a chanfod datrysiad heddychlon a democrataidd."
Mae cynigion dydd cynnar yn gyfle i ASau fynegi eu barn neu dynnu sylw at faterion sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ond ychydig iawn ohonyn nhw sydd yn mynd ymlaen i gael eu trafod.