Cymru'n paratoi wedi rhybudd coch am eira a rhew

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Pentre FoelasFfynhonnell y llun, Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gynradd Pentrefoelas, Sir Conwy, yn un o gannoedd o ysgolion Cymru sydd ar gau oherwydd y tywydd

Mae dros 1,000 o ysgolion wedi cau ddydd Iau ac mae rhybudd o broblemau trafnidiaeth wrth i dywydd garw effeithio ar y rhan fwyaf o'r wlad.

Daeth rhybudd coch - risg i fywyd - am eira a rhew yn i rym am 15:00 ac yn parhau tan 02:00 fore Gwener.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dolen allanol, mae disgwyl rhwng 10-20cm o eira mewn sawl man, gyda gwyntoedd cryfion o'r dwyrain.

Mae rhai ffyrdd wedi eu cau a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu canslo, ac mae rhybudd y gallai mwy gael eu gohirio yn ystod y dydd.

  • Un lon o'r M4 ar gau rhwng C22 (M49) a C23 (M48);

  • Un lon o'r M4 ar gau tua'r gorllewin rhwng C18 a C19;

  • A44 Ffordd Llanbadarn ar gau rhwng yr A487 a'r A470 ac mae lorïau yn sownd yn yr eira yno;

  • A470 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng B4391 (Blaenau Ffestiniog) a'r A487 (Gellilydan);

  • A542 Bwlch yr Oernant ar gau;

  • A4067 ar gau ger Ystradgynlais;

  • A4016 Ffordd Mynydd y Bwlch ar gau oherwydd eira, ac mae disgwyl iddi fod ar gau tan ddydd Llun;

  • A4061 Ffordd Mynydd Rhigos ar gau;

  • A4233 Ffordd Mynydd Maerdy ar gau;

  • B5113 yn Llanrwst ar gau oherwydd eira.

Disgrifiad,

"Peidiwch teithio os nad oes gwir angen" yw neges Rhian Haf

Ysgolion

Mae manylion yr ysgolion sydd ynghau oherwydd tywydd garw ar gael ar wefannau'r cynghorau (nid yw'r wybodaeth ar gael yn Gymraeg ar bob gwefan):

Rhybudd coch

Mae rhybudd coch yn effeithio ar ardaloedd ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Roedd 1,024 o ysgolion ar gau yng Nghymru, gan gynnwys pob ysgol yn siroedd Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Ceredigion, Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rhew yn amlwg yn Noc Fictoria, Caernarfon fore Iau

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cynghori ysgolion y sir i gau ddydd Gwener, tra dywedodd llefarydd ar ran Sir Gaerfyrddin na fyddai penderfyniad canolog yn cael ei wneud, gyda'r dewis yn cael ei adael i brifathrawon.

Mae Cyngor Penfro wedi dweud y bydd holl ysgolion yn y sir yn parhau ar gau ddydd Gwener.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ganslo holl apwyntiadau cleifion allanol ddydd Iau.

Roedd holl gampysau Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd wedi eu cau.

Daeth cadarnhad hefyd fod Tŷ Hywel a'r Cynulliad wedi cau am 12:00 ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd hyd yn oed y defaid yng Nganllwyd ger Dolgellau yn teimlo'r oerfel

Oedi i deithwyr

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl oedi hir ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae eira wedi cau rhai lonydd.

Mae ffordd yr A44 rhwng Llangurig a Heol-Y-Bont, Aberystwyth wedi ei chau.

Cafodd ffordd Bwlch yr Oernant ger Llangollen yn Sir Ddinbych - yr A542 - ei chau i'r ddau gyfeiriad nos Iau.

Mae ffordd yr A470 wedi'i chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Blaenau Ffestiniog a Gellilydan yng Ngwynedd.

Disgrifiad,

Roedd hi'n eithriadol o wyntog ac yn bwrw eira yn Llanuwchllyn ger Y Bala ddydd Iau

Mae ffordd yr M48 ar Bont Hafren wedi ei chau oherwydd gwyntoedd cryfion ac mae cyfyngiadau ar Bont Britannia rhwng Gwynedd a Môn.

Mae cwmni Stena wedi canslo taith 08:00 o Rosslare i Abergwaun oherwydd y tywydd, ac mae Irish Ferries hefyd wedi canslo dwy daith rhwng Caergybi a Dulyn.

Dywedodd Bysiau Arriva bod rhai teithiau wedi eu canslo yn y gogledd ac mae rhai teithiau wedi eu canslo gan gwmni Stagecoach o'u canolfannau yng Nghaerffili, Coed Duon a Merthyr.

Mae hediadau o Faes Awyr Caerdydd i'r Alban, Paris a Berlin hefyd wedi eu gohirio.

Mae Western Power wedi cadarnhau bod 1,437 o gartrefi yng Nghymru heb bŵer ar hyn o bryd. Does dim manylion am gwsmeriaid Scottish Power, ond mae adroddiadau bod nifer o gartrefi heb drydan mewn sawl ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr eira'n achosi trafferthion i deithwyr yn Llanbrynmair fore Iau

Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yw y dylai pobl ofalu am ffrindiau a theulu bregus.

Dywedodd elusen Age Cymru y dylai pobl hŷn "baratoi ond nid poeni", gan annog pobl i wisgo'n gynnes os yn mynd allan, a sicrhau bod eu cartrefi'n ddigon cynnes.

Cafodd 44 o bobl ddigartref loches nos Fercher gan y Ganolfan Huggard yng Nghaerdydd.

Galwadau 999 'cyfrifol'

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys bydd cerbydau 4x4 y llu'n cael eu hanfon i'r ardaloedd gwaethaf er mwyn caniatáu i'w swyddogion ymateb i alwadau brys.

Dywedodd llefarydd: "Oherwydd y tywydd, rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio'r system 999 mewn modd cyfrifol ac ar gyfer achosion brys yn unig - gan ddefnyddio llinell 101 ar gyfer achosion eraill."

Ychwanegodd y llefarydd y dylai gyrwyr ystyried yn ofalus a yw eu siwrne yn angenrheidiol.

Mae'r Urdd hefyd wedi cyhoeddi y bydd rhaid ail-drefnu nifer o eisteddfodau cylch dros y penwythnos oherwydd y tywydd. Mae'r manylion i'w gweld ar wefan yr Urdd., dolen allanol