Carwyn Jones: 'Dim amserlen camu i lawr fel prif weinidog'
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi dweud na fydd yn cyhoeddi amserlen ar gyfer camu lawr fel prif weinidog.
Mynnodd na allai wneud datganiad ynglŷn â gadael cyn diwedd yr ymchwiliad gafodd ei lansio yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.
Fe ddywedodd Mr Jones ei fod yn canolbwyntio ar geisio denu swyddi i Gymru, gan gynnwys o Ogledd America ble mae e'n ymweld yr wythnos hon.
Dywedodd na fyddai'n dilyn ei ragflaenydd, Rhodri Morgan - fe wnaeth Mr Morgan ddatgan ei fwriad i ymddeol dros flwyddyn cyn rhoi'r gorau iddi yn 2009.
'Amserlen yn ddim help'
Wrth siarad â BBC Cymru yn Efrog Newydd, gwadodd Mr Jones hefyd, honiadau'r Ceidwadwyr bod polisi Llywodraeth Cymru ar Brexit yn "anhrefnus".
Gofynnwyd a fyddai'n cyhoeddi amserlen, ond dywedodd Mr Jones: "Dwi ddim y credu bod hwnna'n help.
"Beth sy'n holl bwysig yw mynd trwyddo'r holl broses o'r ymholiadau sydd mynd i gael eu gwneud dros y misoedd nesaf achos bydde fe ddim yn beth da i adael yn ystod yr ymholiadau hynny, a dwi ddim yn mynd i neud hynny.
"Felly mae rhaid mynd trwy'r broses hynny ac o fynna, gweld beth sy'n digwydd."
'Mor drefnus â phosib'
Pryd bynnag fydd Carwyn Jones yn camu lawr, fe ddywedodd ei fod am drosglwyddo'r awenau mewn ffordd sydd "mor drefnus â phosib."
"Chi wastad yn meddwl amdano fe wrth gwrs, mae hwnna'n naturiol. Mewn gwleidyddiaeth os mae rhywun gallu gadael ar dermau ei hunain mae'n hwnna'n rhywbeth - ond fel rheol mae rhywun yn cael cic mas mewn etholiad.
"Yn eich meddwl chi mae rhaid cael rhyw fath o amserlen ond mae hwnna'n newid wrth gwrs, ynglŷn ag amgylchiadau. Sneb sy'n gwybod beth sydd rownd y gornel."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tri ymholiad ers i Mr Sargeant gael ei ganfod yn farw yn ei gartref fis Tachwedd diwethaf.
Fe gafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo pedwar diwrnod yn gynharach yn dilyn honiadau o ymddwyn yn amhriodol gyda merched. Mae un o'r ymholiadau, dan arweinyddiaeth cyfreithiwr annibynnol, yn edrych ar sut wnaeth Mr Jones delio gyda'i ddiswyddiad.
Dywedodd Mr Jones ei fod am drafod y posibilrwydd o gael cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau ar ôl Brexit, ond byddai llawer gwell ganddo aros yn yr undebau tollau Ewrop - rhywbeth fyddai'n rhwystro Prydain rhag taro bargeinion ei hun gyda gwledydd eraill.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd cyn ei daith, dywedodd Mr Jones y byddai "yn pwyso dros ddatblygu cytundeb masnach rydd rhwng ein gwledydd".
Ond yn Efrog Newydd, fe ddywedodd bod rhaid edrych ar yr holl opsiynau: "Ond gadewch imi fod yn gwbl glir, aros yn yr undeb tollau yw'r ffordd orau ymlaen i Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2017