Llacio mesurau rheoli cefnogwyr pêl-droed Wrecsam a Chaer

  • Cyhoeddwyd
Cae Ras
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gêm ar 11 Mawrth drwy docyn yn unig

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi y byddan nhw'n llacio mesurau diogelwch llym sydd fel arfer mewn grym ar gyfer gemau rhwng Wrecsam a Chaer.

Daeth y mesurau i rym yn wreiddiol oherwydd hanes o drafferthion rhwng cefnogwyr y ddau glwb sy'n chwarae yn y Gynghrair Cenedlaethol.

Dywedodd y Prif Uwch Arolygydd, Alex Goss, o Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cydweithio gyda'r ddau glwb a Heddlu Sir Caer cyn dod i'r penderfyniad.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ar y Cae Ras ar 11 Mawrth.

Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn fe fydd cefnogwyr yn gallu teithio i'r gêm fel maen nhw'n dymuno, heb orfod cwrdd mewn man canolog a chael eu cludo mewn bysiau swyddogol i'r stadiwm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu o flaen cefnogwyr yn 2014

Ond fe fydd mynediad i'r gêm drwy docyn yn unig.

Dywedodd y Prif Uwch Arolygydd Goss fod gan yr heddlu "ddyletswydd i sicrhau hawliau cefnogwyr i fynychu".

Ychwanegodd: "Hwn yw'r tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd nad yw mesurau arbennig mewn grym ar gyfer y Cae Ras ar gyfer y gêm hon.

"Ond byddwn yn annog cefnogwyr i gyrraedd y stadiwm mewn digon o amser ac i ymddwyn yn gyfrifol."