Gwadu bod nyrsys yn gorfod 'talu i aros dros nos'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol Gwent

Mae byrddau iechyd wedi gwadu honiadau bod nyrsys wedi gorfod talu i aros mewn llety myfyrwyr yn ystod y tywydd garw diweddar.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y byddai'n ymchwilio i'r mater - gan ychwanegu y byddai'n "gam gwag" os oedd yn wir.

Cafodd yr honiad ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn bwrdd iechyd sydd heb ei enwi.

Dywedodd pennaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, Tina Donnelly fod yr honiadau yn "ffiaidd".

Mae'r saith bwrdd iechyd wedi dweud nad ydyn nhw'n codi unrhyw fath o dâl ar staff sydd yn aros dros nos yn ystod y tywydd garw.

'Ymdrech arwrol'

Mae wedi arwain at gryn feirniadaeth ar Twitter, yn dilyn neges gan bennaeth polisi'r corff busnes, CBI Cymru.

Dywedodd Leighton Jenkins: "Mae rhai ysbytai yng Nghymru yn codi ffi o gysgu mewn llety myfyrwyr ar y safle (£20-30 y noson) ar nyrsys sydd yn gwirfoddoli i beidio mynd adref.

"Mae hyn er gwaethaf y ffaith eu bod yn arbed cost i'r GIG o beidio ag anfon 4x4 i'w casglu nhw a'u dychwelyd nhw adref."

Mae Mr Jenkins wedi cael cais am sylw.

Dywedodd Mr Gething wrth BBC Radio Wales: "Mae staff y GIG yn aros dros nos i geisio sicrhau bod eu cyflogwr - y gwasanaeth iechyd gwladol - yn gallu parhau i weithredu'r diwrnod canlynol, a dwi jyst ddim yn meddwl y dylai hynny arwain at gost i'r staff sy'n gwneud hynny.

"Mae cydymdeimlad a chefnogaeth sylweddol gan y cyhoedd i'n gwasanaeth iechyd wrth i bobl weld yr ymdrech arwrol sydd wedi cael ei roi i gynnal y gwasanaeth i'n dinasyddion mwyaf bregus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r honiadau

Ychwanegodd: "Dwi'n disgwyl i'r sefyllfa gael ei datrys, ac i bob rhan o'r gwasanaeth ddeall fy nisgwyliadau yn glir a gweithredu yn unol â hynny."

Dywedodd Vanessa Young, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru - sy'n cynrychioli byrddau iechyd Cymru - y byddai angen ymchwilio i'r honiadau, a sicrhau nad oedd staff yn wynebu cost ychwanegol.

"O bosib mae'n sefyllfa ble mae'n rhaid iddyn nhw dalu o flaen llaw ac yna hawlio fe nôl gan y bwrdd iechyd," meddai.

Ychwanegodd fod staff y gwasanaeth iechyd wedi gwneud gwaith clodwiw iawn dros y dyddiau diwethaf wrth barhau i geisio cadw gwasanaethau i fynd gymaint â phosib.

Dywedodd cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, Tina Donnelly ei bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un gafodd eu heffeithio gan yr honiadau.

'Dim tâl'

Mewn neges ar Twitter dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Dydyn ni ddim yn codi tâl ar staff am aros dros nos yn yr ysbyty dan yr amgylchiadau yma ac wastad yn darparu llety a bwyd am ddim.

"Weithiau mae eithriadau os yw staff wedi archebu llety y tu allan i'n prosesau ni, ond maen nhw wastad yn cael eu had-dalu'n llawn."

Ychwanegodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: "I fod yn glir, dydyn ni DDIM yn codi tâl ar staff am lety. Os oes unrhyw un wedi cael cais i dalu mae gofyn iddyn nhw gysylltu gyda'u rheolwr safle yn syth.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i'n holl staff sydd yn mynd gam ymhellach i ddarparu gofal o'r radd flaenaf."

Mae byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Hywel Dda, Powys, a Betsi Cadwaladr hefyd wedi trydar bellach i ddweud nad ydyn nhw'n codi unrhyw fath o dâl ar staff sydd yn aros dros nos yn ystod y tywydd garw.