Rhybudd am rew a llifogydd wrth i'r eira gilio
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd i bobl i fod yn ofalus o rew ar hyd ffyrdd sydd heb eu trin, yn dilyn yr eira diweddar.
Mae rhai ffyrdd yn parhau ar gau ac ardaloedd eraill yn dygymod a phroblemau cyflenwad dŵr, ond mae disgwyl i amodau wella wrth i'r tymheredd godi.
Cafwyd rhywfaint o eira eto dros nos ar dir uchel, ac yn ystod dydd Sul mae disgwyl cawodydd o law i symud ar draws y wlad o'r de.
Mae llawer o ffyrdd bellach wedi eu clirio ac mae gwasanaethau trafnidiaeth wedi ailddechrau yn dilyn y tywydd garw dros y dyddiau diwethaf.
Mewn neges ar Twitter dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Wrth i'r eira ddechrau dadmer fe hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu hymdrechion diflino yn cadw ein gwasanaethau cyhoeddus ni'n weithredol a helpu eraill yn eu cymunedau.
"Mae'r amodau'n parhau'n beryglus mewn llefydd felly cofiwch fod yn ofalus pan fyddwch chi'n mynd mas."
Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru bum rhybudd llifogydd, dolen allanol 'byddwch yn barod' mewn grym, wrth i'r eira doddi a chilio.
Mae disgwyl i'r glaw a'r tymheredd cynhesach ddydd Sul helpu gyda'r ymdrechion yr awdurdodau i glirio rhai o'r ffyrdd hynny.
Mae rhai ysgolion yn gobeithio agor unwaith eto ddydd Llun, ar ôl bod ar gau ddiwedd yr wythnos oherwydd y tywydd.
Ond mae Cyngor Sir Blaenau Gwent eisoes wedi cyhoeddi y bydd eu holl ysgolion nhw ar gau am ddiwrnod arall.
Ond rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhew arwain at amodau gyrru peryglus a risg uwch o ddisgyn.
Mae trigolion ar draws rhannau helaeth o Ynys Môn, yn ogystal ag ardaloedd fel Gwynedd a Bro Morgannwg, hefyd wedi cael eu heffeithio gan drafferthion gyda chyflenwadau dŵr.
Mae rhai gwasanaethau bws a thrên wedi dechrau rhedeg unwaith eto, ac fe wnaeth Maes Awyr Caerdydd hefyd ailagor i deithwyr ddydd Sadwrn.
Roedd peirianwyr hefyd wedi bod yn gweithio i ailgysylltu cannoedd o dai yng Nghymru oedd wedi colli eu cyflenwad pŵer.
Bu'r gwasanaethau brys, timau achub mynydd, ac awdurdodau a gwirfoddolwyr eraill yn brysur hefyd yn achub pobl oedd yn sownd, a chludo eraill i apwyntiadau ysbyty.
Mewn un achos fe wnaeth gwirfoddolwyr yrru chwe awr i Bentrefoelas ger Betws-y-Coed, heibio i luwchfeydd 15 troedfedd, i gyrraedd dynes oedd 38 wythnos feichiog a'i symud yn agosach i'r ysbyty rhag ofn i'r babi ddod.
Ond mae'r tywydd cynhesach wedi dod â risg o lifogydd, gyda sawl rhybudd wedi eu cyhoeddi ar draws Cymru.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael eu galw i 30 achos o lifogydd dros y 24 awr ddiwethaf.
Yn y cyfamser, mae'r gwaith o asesu rhywfaint o ddifrod Storm Emma eisoes wedi dechrau.
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yng Nghaergybi nos Sadwrn i geisio trafod y ffordd ymlaen wedi'r dinistr ym marina'r dref ddydd Gwener, pan gafodd 80 o gychod eu difrodi yn y gwyntoedd.
Ers dydd Iau mae eira sylweddol wedi disgyn dros y rhan fwyaf o Gymru, ac mae rhai ffyrdd yn parhau i fod ar gau.
Roedd Powys a Phen Llŷn ymysg yr ardaloedd gafodd flanced ffres o eira ddydd Sadwrn, gyda'r gwynt yn arwain at luwchfeydd uchel yn pentyrru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2018