Brexit: ACau o blaid mesur brys i amddiffyn pwerau

  • Cyhoeddwyd
Fflag Cymru a'r UE

Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio o fwyafrif mawr i gyflwyno mesur brys i amddiffyn pwerau'r Cynulliad ar ôl Brexit.

Roedd 44 o blaid a 10 yn erbyn cyflwyno'r Mesur Parhad fel mesur brys, sy'n golygu y gallai ddod yn ddeddf yn llawer cynt na deddfau eraill Cymru.

Yn wir, fe allai fod yn ddeddf erbyn 21 Mawrth.

Fe fyddai'r Mesur Parhad yn dod â phwerau datganoledig sy'n cael eu gweithredu ar lefel yr UE ar hyn o bryd yn syth i'r Cynulliad.

Cafodd y mesur ei gynnig gan weinidogion yng Nghaerdydd yn dilyn ffrae gyda Llywodraeth y DU dros fil Brexit allweddol.

Polisi yswiriant

Mae gweinidogion y DU wedi addo y bydd y rhan fwyaf o bwerau mewn ardaloedd datganoledig yn llifo 'nôl o Frwsel i Gaerdydd - ond mae'r ddwy lywodraeth yn parhau i anghytuno.

Fel mae'n sefyll, fe fyddai'r Mesur Ymadael yn golygu bod pwerau mewn meysydd datganoledig fel amaethyddiaeth, sydd ar hyn o bryd yn cael eu gweithredu ym Mrwsel, yn llifo yn ôl i San Steffan yn hytrach na Chaerdydd, Caeredin a Belfast.

Mae wedi arwain at fisoedd o drafodaethau rhwng gweinidogion llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban ynghylch newid y mesur.

Fe ddywedodd Gweinidog Swyddfa'r Cabinet David Lidington mewn araith yr wythnos diwethaf bod Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnig "sylweddol" a fyddai'n gweld y mwyafrif helaeth o'r pwerau sy'n dychwelyd o'r UE yn mynd i'r gweinyddiaethau datganoledig.

Disgrifiad o’r llun,

Mynnodd David Lidington y byddai mwyafrif helaeth o'r pwerau yn mynd i'r gweinyddiaethau datganoledig

Ond mae Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi gwrthod y cynnig am beidio mynd yn ddigon pell.

Polisi yswiriant Llywodraeth Cymru yw'r gyfraith arfaethedig yn erbyn cynlluniau sydd wedi eu cynnwys ym Mesur Ymadael yr UE Llywodraeth y DU, sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd.

'Llai na delfrydol'

Wrth arwain y ddadl, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford bod cyflwyno'r mesur fel un brys yn "llai na delfrydol" ond y gallai'r gost o beidio gwneud hynny "fod yn uchel iawn".

Ychwanegodd y byddai gweinidogion Cymru'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyrraedd cytundeb ar newidiadau i Fesur Ymadael yr UE, ond bod gweinidogion San Steffan "wedi cael pob cyfle i wneud hynny".

Penderfynodd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad bleidleisio yn erbyn, gyda David Melding AC yn dweud bod amserlen y mesur "mor gyflym fel na fyddai digon o graffu ar o mesur os o gwbl".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ei fod yn "anffodus" nad oedd y bleidlais yn unfrydol, gan y byddai hynny "wedi anfon neges llawer cryfach os fyddai'r pleidiau yn unedig".

Ychwanegodd: "Mae'r mesur yma'n rhoi'r arf cryfaf sydd gennym fel gwlad yn y ddadl ar hyn o bryd. Byddwn bob amser yn amddiffyn ein sefydliadau democrataidd, a'n democratiaeth cenedlaethol. Bob amser."

Dywedodd arweinydd UKIP Cymru, Neil Hamilton ei fod yn parchu canlyniad refferendwm yr UE, ond ei fod hefyd yn parchu dau refferendwm o gefnogi datganoli i Gymru.

Penderfynodd gefnogi'r mesur gan ddweud nad oedd yn gweld sut y gallai "fynd yn ffordd proses Brexit".