OMB! Jen Hall, a'i naw o blant yn edrych ymlaen at Sul y Mamau

  • Cyhoeddwyd
Jen (ar y dde, yn y top streipiog) gyda'r gŵr, y plant ac Alex JonesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Jen (ar y dde, yn y top streipiog) gyda Rob y gŵr, y plant ac Alex Jones

Mae'n siŵr y byddai cwsg ac ychydig o lonydd yn anrheg da i unrhyw fam ar Sul y Mamau ond byddai Jen Hall o Gwm-y-Glo, ger Caernarfon, yn eu gwerthfawrogi'n fwy na'r rhan fwyaf - mae ganddi naw o blant!

Nos Sul, Mawrth 11, am 20:00 ar S4C, roedd y cyflwynydd Alex Jones yn teithio Cymru yn sgwrsio gyda gwahanol famau yn y rhaglen Y Fam Gymreig, dolen allanol i ddathlu Sul y Mamau.

Un o'r mamau wnaeth Alex gyfarfod oedd Jen a'i theulu.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r fam brysur:

Wnaethoch chi benderfyniad pendant i gael lot o blant neu wnaeth e jest ddigwydd?

Wnaeth o jest digwydd. Dim plans... petai gynnon ni plans, falla' fyddai ddim wedi digwydd!

Pryd ges di noson o gwsg ddiwethaf?

Be 'di cwsg? 'Da chi jest yn arfer peidio cysgu. 'Da chi ddim yn ei gael o, 'dydi o ddim yna, a rhaid i chi ymdopi. Dyna fo!

Cefais Elliw, y cyntaf, pan o'n i'n 17 oed ac a dweud y gwir oedd y cyntaf yn OK. O'n ni'n medru cysgu pan oedd hi'n cysgu ac mae 'na dipyn o gyfle i gael ychydig o lonydd bob hyn a hyn.

Ond pan oedd hi'n ddwy a hanner, gawson ni efeilliaid, a dyna oedd sioc. Fyddai Elliw eisiau bod yn effro ac yn chwarae trwy'r dydd, ac roedd yr efeilliaid eisiau eu bwydo pob dwy awr dim ots be', ac roedd hynna'n anodd!

Beth yw oedran y plant, o'r hynaf i'r ieuengaf?

Mae'r hynaf, Elliw, yn 17 oed. Wedyn mae ganddon ni efeilliaid, Robert a Keith sy'n 14, mae Jac yn 11, wedyn mae Dylan sy'n 9, Alfie yn 7, ma' Poppy'n 4, Jasmine yn 2 a George yn 9 mis.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd cael llun teidi o bawb ar yr un pryd! Elliw, Robert, Keith, Jac, Dylan, Alfie a Poppy. Dim ond Jasmine a George sydd ddim yma.

Pa broblemau annisgwyl mae cael naw o blant yn eu hachosi?

Un peth yw cerbyd. Dydy o ddim yn bosib i ni gael car teulu. Rhaid cael fan. Dweud y gwir dwi'n gyrru nine seater mini bus, ac mae gan Rob y gŵr 17 seater a hwnnw ydy car y teulu. Dwi'n gorfod dysgu a phasio prawf i mi gael gyrru hwnnw felly ar y foment, dwi'n methu gyrru'r teulu i gyd mewn un cerbyd.

Problem arall wnaeth ein taro heb feddwl oedd mynd i theme parks ac yn y blaen. Mae'n rhaid i chi gael ratio o oedolion i blant... weithiau un oedolyn i bob dau neu dri phlentyn... felly os ydyn ni am fynd i rywle fel yna, rhaid i ni fynd â ffrind neu aelod o'r teulu gyda ni. A hefyd oherwydd y gwahaniaeth oedran, mae angen rhywun i ofalu am y plant bach tra bod pawb arall ar y reids.

Disgrifiad o’r llun,

Paid â thynnu dy dafod George!

Sut Nadolig yw hi yn eich tŷ chi?

Chaos! Mae hi'n hollol rhemp. 'Does dim golwg o'r carped fore 'Dolig, ac wrth gwrs, mae llond tŷ o bethau newydd a theganau, mwya' sydyn. Ar hyn o bryd, mae'n soffa ni yng nghefn y mini bus...'snam lle iddo fo!

Mewn ffordd, y Nadolig yw'r adeg gwaethaf achos dwi'n poeni'n ddi-ddiwedd os bydd Siôn Corn wedi cael digon o bethau i bawb. Ydy pawb wedi cael yr un faint o bethau? Ydy pawb wedi cael beth oedden nhw eisiau?

Wedyn o ran y pethau dwi'n prynu... wel oherwydd bod gymaint o anrhegion, dwi'n gorfod dechrau prynu'n gynnar er mwyn medru fforddio talu dros gyfnod hir, ac wedyn, mae'n hawdd anghofio beth ydach chi wedi prynu a beth ydach chi heb!

Sôn am arian, faint o straen mae prynu pob dim fesul naw yn rhoi arnoch chi fel teulu?

Wel, os fedrwn ni ddim cael rhywbeth, fedrwn ni ddim ei gael o. A dyna fo. Os ma' na ydy'r ateb, na ydy'r ateb.

Disgrifiad o’r llun,

Jasmine yn disgleirio ym maes perfformio

Mae'n siŵr gen i fod o'n well iddyn nhw, oherwydd dros amser, maen nhw wedi dod i ddeall nad yw hi'n bosib i bawb gael pob dim ac maen nhw'n dysgu gwers bwysig fydd efallai'n eu stopio nhw rhag mynd i ddyled nes ymlaen yn eu bywydau.

Beth am Sul y Mamau? Wyt ti'n cael dy foddi mewn anrhegion?

Fyddan nhw i gyd yn gwneud anrheg i mi yn yr ysgol a dwi'n cael cerdyn a blodau hefyd fel arfer. Mae Elliw, oherwydd bod hi'n hŷn ac yn gweithio, yn prynu blodau a cherdyn hefyd chwarae teg.

Blwyddyn yma, mae Rob yn mynd â'r hogia' i wylio'r rygbi yng Nghaerdydd... felly bydd rhaid i'r dathliadau aros tan rhywbryd eto. Ond fydd y tŷ ychydig bach yn fwy gwag nag arfer. Dweud y gwir, fyddai'n braf petai'n mynd â'r rhai bach bach gyda fo hefyd... rhaid i mi ofyn iddo!

Beth am y dyfodol? Oes cynlluniau am fwy o blant?

Efallai fyddai'r gŵr yn dweud ei fod o eisiau mwy, ond dwi'm yn gwbod. Dwi'n colli nghwsg ar hyn o bryd. Play it by ear...

Bydd cyfle i chi weld mwy o deulu Jen a theuluoedd eraill ar Y Fam Gymreig, 20:00 Nos Sul, Mawrth 11, ar S4C.