Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei drywanu ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo gael ei drywanu ar Ynys Môn yn oriau mân fore Mercher.
Cafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans toc wedi hanner nos i adroddiadau fod dyn wedi ei drywanu y tu ôl i fflatiau Waterside yng Nghaergybi.
Fe gafodd y dyn 28 oed ei gludo i'r ysbyty, ble mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio am dystion wnaeth sylwi ar unrhyw beth amheus yn ardal fflatiau Waterside rhwng 22:00 nos Fawrth a 00:30 fore Mercher."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda'r llu ar 101.