Cwpan Cyprus: Cymru'n colli ar giciau o'r smotyn

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, CBDC/David Rawcliffe

Cafodd tîm pêl-droed merched Cymru eu trechu gan Awstria ar giciau o'r smotyn yn eu gêm olaf yng Nghwpan Cyprus ddydd Mercher.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n gorffen y gystadleuaeth yn yr wythfed safle wedi iddyn nhw orffen yn drydydd yn eu grŵp.

Sarah Puntigam sgoriodd unig gôl yr hanner cyntaf i Awstria gydag ergyd i gornel ucha'r rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.

Ond daeth Cymru yn ôl, gyda'r eilydd Kayleigh Green yn sgorio gyda phum munud yn weddill.

Ar giciau o'r smotyn, Awstria oedd yn fuddugol o 3-2.

Fe gafodd y garfan bencampwriaeth lwyddiannus, gan drechu'r Ffindir, cael gêm gyfartal â'r Swistir a cholli yn erbyn Yr Eidal.

Bydd tîm Jane Ludlow nawr yn troi eu golygon yn ôl at eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd, gyda'u gêm nesaf yn erbyn Lloegr ym mis Ebrill.