Ymchwiliad llofruddiaeth: Enwi menyw yn lleol
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Fiona Scourfield oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Suzi Wales
Mae menyw gafodd ei lladd mewn digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin brynhawn Mawrth wedi ei henwi'n lleol fel Fiona Scourfield, oedd hefyd yn cael ei hadnabod dan yr enw Suzi Wales.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi arestio bachgen 16 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad ger Sanclêr.
Mae uned arbennig wedi'i sefydlu yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin a dywedodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fferm Fferm Broadmoor ar y ffordd rhwng Sanclêr a Thalacharn tua 17:40 ddydd Mawrth.

Roedd yna bresenoldeb heddlu trwm ar ffordd yr A4066 rhwng Sanclêr a Thalacharn nos Fawrth
Roedd Ms Scourfield yn weithgar gydag elusen achub gŵn UK-GSR a rhoddodd yr elusen deyrnged iddi ar eu tudalen Facebook: "Yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy, cafodd Fiona Scourfield, aka Suzi Wales, ei lladd neithiwr.
"Roedd Suzi yn un o'n haelodau ers hiraf, oedd yn cefnogi'r gwasanaeth achub yn llwyr. Ei chi UK-GSR Bruno oedd ei holl fyd.
"Gweithiodd Suzi'n ddiflino i wneud y byd yn lle gwell i anifeiliaid ac mae ei cholli yn golled anferth nid yn unig i ni ond i anifeiliaid ar draws y byd."

Roedd yr heddlu'n parhau ar y safle fore Mercher
Roedd Ms Scourfield yn cadw ieir, geifr a chŵn ar ei fferm.
Dywedodd ffermwr sy'n byw gerllaw iddi: "Mae pawb mewn sioc, mae'n anghredadwy.
"Roedd Fiona yn fenyw hyfryd, roedd hi wedi byw yma ar hyd ei hoes ac roedd yn boblogaidd ac yn uchel ei pharch oherwydd ei gwaith elusennol.

Roedd Fiona Scourfield yn weithgar gydag elusen achub cŵn UK-GSR
"Roedd hi wastad yn cymryd cŵn strae i mewn, i'w gwella a'u hailgartrefi nhw."
Mae teulu Ms Scourfield yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol yr heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018