Diddordeb tramor mewn adfywio Abertawe

  • Cyhoeddwyd
adfywio AbertaweFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o ddwy ran gynta' cynllun adfywio Abertawe

Mae busnesau'r ardal wedi cael clywed bod cynnydd yn y diddordeb o dramor mewn cynllun gwerth £500m i adfywio canol dinas Abertawe.

Mae'r cynllun yn cynnwys arena gyda 3,500 o seddau, sgwar digidol a gwesty yn y maes parcio ger canolfan hamdden LC.

Yn ail ran y cynllun, bydd siopau, tai bwyta, caffis a sinema ar safle hen ganolfan siopa Dewi Sant.

Rhan arall o'r cynllun yw traeth dinesig gydag acwariwm a chanolfan wyddonol ar safle'r ganolfan ddinesig.

Dywedodd Martin Nicholls o Gyngor Dinas Abertawe wrth gyfarfod o fusnesau yn y ddinas: "Dros y misoedd diwethaf mae ymchwydd o ddiddordeb o dramor.

"Mae nifer o fuddsoddwyr rhyngwladol wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cyngor - rhai gyda symiau sylweddol o arian."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn cynnwys 'pont ddigidiol' dros Ffordd Ystumllwynarth

Yr arena gyda gwesty a sgwar digidol fydd y pethau cyntaf i gael eu codi - erbyn 2020 - gyda safle Canolfan Dewi Sant yn cael ei gwblhau ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd Spencer Winter, cyfarwyddwr cwmni Rivington Land (sy'n gofalu am y ddau brosiect), na fyddai canol y ddinas yn cau yn ystod y gwaith.

"Mae pobl eisiau byw, gweithio a chwarae yng nghanol y ddinas," meddai.

"Un peth rydym wedi pwysleisio o'r dechrau yw na fydd manwerthu yn arwain y cynllun yma - bydd y manwerthu'n digwydd ar-lein.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwagle cyhoeddus ger y ganolfan ddinesig bresennol yn arwain at y traeth dinesig

"Dyw e ddim yn fater o neud popeth mewn un cam...mae'n fater o gael cynllun trosolwg mawr."

O ran y traeth dinesig, mae'r datblygwyr Trebor wedi dweud mai'r cyngor fydd yn penderfynu dyddiad dechrau'r gwaith yna.