Dadorchuddo celf i nodi canrif ers agor Ysbyty Rookwood
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd gwaith celf arbennig ei ddadorchuddio ddydd Mawrth fel rhan o ddathliadau i nodi canrif ers agor Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd.
Mae'r ysbyty yn Llandaf yn ganolfan adfer i gleifion, sydd, ymysg gwasanaethau eraill, yn un o 12 uned drwy'r DU sy'n arbenigo mewn trin a gwella anafiadau i linyn y cefn.
Cafodd Rookwood ei adeiladu fel plasdy yn 1886, cyn iddo agor fel ysbyty gorffwys a gwella yn 1918.
Dywedodd yr artist Haf Weighton, gafodd ei chomisiynu i ddarlunio'r adeilad, fod y profiad wedi gwneud iddi edrych ar yr adeilad o'r newydd.
'Adeilad hardd'
"Fi'n dod o Gaerdydd, fi'n nabod yr ysbyty - o'n i yn Glantaf sy' jyst rownd y gornel o'r ysbyty - ond do'n i ddim wedi sylwi arno'n iawn o'r blaen.
"Mae'n adeilad hardd - mae lot o deils lliwgar y tu allan a'r tu fewn i'r adeilad.
"Mae yna staer sy'n mynd reit drwy ganol yr adeilad, ac mae lot o adrannau gothig iawn i'r adeilad - fydde chi ddim yn sylwi gan fod lot o goed yn mynd ar draws yr adeilad."
Dros y blynyddoedd, mae Ysbyty Rookwood wedi gofalu am bobl sydd ag anafiadau cefn neu'r ymennydd, yn ogystal â chleifion strôc, sglerosis ymledol a chlefyd Parkinson.
Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Haf Weighton iddi ddysgu llawer am yr ysbyty drwy siarad â'r staff a'r cleifion: "Mae rhai o'r staff wedi bod yna ers amser hir... a beth o'n i'n sylwi i ddechrau oedd bod lot o bobl sy'n gweithio yna 'efo cysylltiad pwysig gyda'r ysbyty.
"Hefyd, mae'r cleifion sydd wedi bod yna neu sy'n dal yna - mae'n lle pwysig achos eu bod nhw yn mynd yna i ddod dros ddamwain, neu rywbeth sy' 'di achosi eu bod nhw ddim yn gallu symud yn iawn."
Oherwydd i Haf gael cymaint o wybodaeth gan bobl, roedd hi'n teimlo bod angen gwneud mwy nag un llun: "Yn y diwedd, dwi wedi creu tri llun ar wahan.
"Dwi'n creu lluniau sydd ddim yn edrych yn uniongyrchol fel yr adeiladau - mae gyda nhw deimlad yr adeilad hefyd.
"Mae yna gloch yn yr ysbyty - cymuned ym Mhorthcawl wnaeth roi'r gloch i'r ysbyty dwi'n meddwl - rhywbeth i'w wneud a'r môr, ond mae'r staff i gyd yn hoffi'r gloch yma yn y dderbynfa, ac mae'r ysbyty'n dweud bod hi'n bwysig fod y gloch yn y lluniau.
"Tapestries ydyn nhw - dwi'n defnyddio pwyth, ond hefyd printio a phaent hefyd - cymysgedd o ddeunyddiau gwahanol, ac mae i gyd ar ddefnydd fel arfer.
"Mae'r un mae Rookwood yn rhoi ar eu wal nhw tua metr a hanner o hyd, felly mae'n reit fawr."
Arddangos yn Oriel Saatchi
Mae hi'n gyfnod prysur i Haf ar hyn o bryd, gan y bydd rhai o'u gweithiau'n cael eu harddangos yn Oriel Saatchi yn Llundain cyn hir.
"Dwi'n lwcus iawn, mae gen i arddangosfa wythnos nesa', sy'n lansio o'r 20 Mawrth nes 1 Ebrill," meddai.
"Ro'n i'n athrawes yn Llundain, a phan o'dd Saatchi wedi sefydlu eu hadran addysg nhw, nes i weithio 'efo nhw tua deng mlynedd yn ôl.
"Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn byw 'nôl yng Nghymru, a nes i broject y flwyddyn ddiwethaf drwy ysgolion creadigol arweiniol - prosiect y cyngor celfyddydau - gydag ysgol Pencoed.
"Dyma'r plant yn creu darnau o waith yn seiliedig ar fy ngwaith i, a dyma'r prosiect yna'n mynd i fyny yn Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Llandochau."
Cymaint oedd y diddordeb yn y gwaith, cafodd ei hannog i chwilio am gyfle arall i arddangos y gwaith: "Roedd lot o bobl oedd yn ymweld â'r arddangosfa yn dweud y byddai'n wych os byddai hwn yn mynd i rywle arall, felly nes i gysylltu gyda'r Saatchi Gallery, a nes i anfon lluniau oedd yn yr arddangosfa, a dyma nhw'n dweud y bydden nhw'n hoffi arddangos y gwaith yna yn y gwanwyn.
"Dy' chi ddim yn disgwyl, pan ydych chi'n gweithio 'efo plant - pan o'n i'n athrawes - dy' chi ddim yn disgwyl i rywbeth mor fawr i ddod 'nôl yn y dyfodol."