Oedi cyn agor ysgol Gymraeg newydd yn Y Trallwng
- Cyhoeddwyd
Ni fydd ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn agor yn Y Trallwng ym mis Medi yn ôl y bwriad gwreiddiol, a hynny yn rhannol oherwydd ymyrraeth y corff treftadaeth, Cadw.
Dywedodd Cyngor Powys fod gorchymyn mewn grym yn atal y gwaith datblygu ar safle hen Ysgol Maesydre a diogelu'r adeilad presennol.
Bwriad y cyngor yw dymchwel yr hen adeilad a chodi ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon ar y safle.
Yn wreiddiol, y bwriad oedd agor yr ysgol newydd ym Medi 2018, ond oherwydd oedi mae'r dyddiad wedi'i symud i hydref 2019, gyda'r posibilrwydd nawr o oedi pellach.
Fe ddaeth ymyrraeth CADW ar ôl cais i ddiogelu'r hen ysgol oherwydd ei gwerth pensaernïol.
'Pwyso a mesur'
Dywedodd neges ar wefan y cyngor eu bod yn disgwyl y penderfyniad, ac yna bydd yn rhaid pwyso a mesur.
"Unwaith bod Cadw wedi cadarnhau eu penderfyniad ynglŷn â rhestru byddwn yn gallu bwrw ymlaen â'r prosiect," meddai'r neges.
"Rydym wedi trafod y cynllun ac ystyried gwahanol ddewisiadau i bwyso a mesur canlyniadau posib i leihau effaith y prosiect."
Dywedodd Cadw eu bod yn dal i ystyried cais am statws rhestredig a'u bod yn gobeithio dod i benderfyniad yn fuan, ond yn y cyfamser bydd gorchymyn mewn grym yn atal unrhyw waith datblygu.
Ym mis Rhagfyr fe wnaeth mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg fynegi eu pryder am unrhyw oedi yn sgil y cais am statws rhestredig.
Ar y pryd, dywedodd Cyngor Powys eu bod yn gobeithio am benderfyniad erbyn Ionawr eleni, ond maen nhw'n dal i aros.
Ym mis Medi 2017 cafodd ysgol gynradd Cymraeg gyntaf Y Trallwng ei sefydlu dros dro ar safle hen Ysgol Ardwyn, gyda dros 70 yn mynychu'r ysgol.
Nod y sir yw codi'r ysgol newydd ar safle Maesydre ar gyfer 150 o ddisgyblion.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor, pe bai Cadw yn penderfynu gosod statws rhestredig llawn, fod posibilrwydd y byddai'n rhaid meddwl am opsiynau eraill.
Ond fe allai hynny'n olygu cais cynllunio newydd, ymgynghoriad cyhoeddus arall, ac oedi pellach i'r ysgol Gymraeg
'Angen penderfyniad'
Dywedodd y cynghorydd Elwyn Vaughan wrth Cymru Fyw ei fod yn siomedig gyda'r sefyllfa ym Maesydre ond ei fod yn gobeithio am benderfyniad er mwyn lles y Gymraeg yn yr ardal.
"Beth sydd ei angen yw penderfyniad buan a bod hwnnw'n benderfyniad clir, er mwyn i ni allu symud ymlaen," meddai.
"Ac os cyfaddawd, yna cyfaddawd, o bosib cadw rhan o'r muriau, ond mae angen symud.
"Mae safle Maesydre yn un delfrydol gan ei bod yng nghanol y dref."
Cynllun £13m
Ychwanegodd fod yr oedi ar hyn o bryd yn atal y datblygwyr rhag cyflwyno cais cynllunio llawn.
Mae Cyngor Powys wedi cytuno ar gynllun gwerth £13m i ad-drefnu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn ardal Y Trallwng.
Bydd y cynllun i godi ysgol cyfrwng Saesneg newydd yn mynd yn ei flaen, a'r nod yw y bydd honno yn cael ei hagor yn hydref 2019.
Fe fydd yr ysgol honno - gyda lle i 360 - yn cael ei chodi ar safle ysgol uwchradd y dre.