Oedi cyn penderfyniad fflatiau pafiliwn pier Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Pafiliwn pier LlandudnoFfynhonnell y llun, Creu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynlluniau cynnwys adeiladu 48 o fflatiau, dau fwyty a maes parcio tanddaearol

Bydd oedi pellach cyn gwneud penderfyniad ar gynlluniau gwerth £18m i droi pafiliwn pier Llandudno yn fflatiau a bwytai yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

Roedd disgwyl i Gyngor Conwy gymeradwyo'r penderfyniad ddydd Mercher, ond mae penderfyniad y llywodraeth i alw'r cais i mewn yn golygu y bydd oedi pellach.

Fe wnaeth cynghorwyr Conwy ohirio gwneud penderfyniad ar y cais gwreiddiol ym mis Rhagfyr yn dilyn pryder am y dyluniad.

Roedd y datblygwr wedi gwneud newidiadau ac roedd disgwyl i bwyllgor cynllunio Conwy gymeradwyo'r cynlluniau i adeiladu 48 o fflatiau, dau fwyty a maes parcio tanddaearol.

Ddydd Mercher, dywedodd cadeirydd y pwyllgor cynllunio, Sue Lloyd-Williams ei bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad i alw'r cais i mewn, a'i fod yn teimlo bod "llais democratiaeth leol yn cael ei gymryd ganddon ni".

Yn y gorffennol mae perchennog pier Llandudno wedi dweud y byddai dyfodol yr atyniad mewn perygl pe bai'r datblygiad yn cael ei gymeradwyo.

Cafodd y pafiliwn gwreiddiol ei ddifrodi mewn tân yn 1994, ac mae'r safle wedi bod yn wag ers hynny.