'Cwyn swyddogol' am ymateb llywodraeth i lygredd fferm

  • Cyhoeddwyd
Pysgodyn

Mae BBC Cymru'n deall bod cwyn swyddogol wedi ei gwneud i'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'r modd y mae Llywodraeth Cymru'n delio â llygredd amaethyddol.

Yn ôl Afonydd Cymru, y corff sy'n siarad dros chwe ymddiriedolaeth afon y wlad, mae gweinidogion wedi methu â gweithredu'n addas i atal y broblem.

Bydd cyfreithwyr ar ran yr Undeb Ewropeaidd nawr yn ystyried a ddylid dwyn achos ffurfiol yn eu herbyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o effaith niweidiol llygredd amaethyddol a'u bod yn disgwyl argymhellion ar ddelio â'r mater erbyn diwedd mis Mawrth.

Dim parch i reolau

Mae cyfreithiau dŵr glan yr UE yn gorfodi gwledydd i gadw afonydd a llynnoedd mewn cyflwr da.

Mae gweinidogion Cymru a'r DU wedi dweud na fydd rheolau amgylcheddol fel hyn yn cael eu gwanhau ar ôl Brexit.

Ond datgelodd adroddiad i gyflwr adnoddau naturiol Cymru yn 2016:

  • Nad oedd 63% o ddyfroedd dŵr ffres Cymru'n cyrraedd y safonau angenrheidiol;

  • Dim ond un o bob chwe chynefin dŵr ffres sy'n cael ei ystyried yn "ffafriol" ar gyfer bywyd gwyllt.

Llygredd o ddiwydiant amaethyddol sy'n tyfu sy'n benna' cyfrifol am hyn meddai Afonydd Cymru.

Mae eu cwyn i'r Comisiwn Ewropeaidd yn dadlau bod lefelau uchel o slyri gwartheg a gwrtaith ieir yn cael eu taenu ar gaeau, ac nad yw'r rheolau a'r cyfyngiadau yn cael eu parchu.

Nid yw ffermwyr i fod i wasgaru slyri ar lethrau, mewn tywydd gwlyb nac yn ystod y gaeaf i osgoi golchi gwrtaith i afonydd a nentydd.

Ond mae'r gwyn yn cynnwys adroddiadau bod hyn wedi digwydd bron yn ddyddiol ers y Nadolig ger afonydd sydd â statws cadwriaethol arbennig fel y Tywi, y Cleddau a'r Teifi yng ngorllewin y wlad.

Mae maethion yn y gwrtaith yn llygru'r afonydd, gan ladd pysgod a bywyd gwyllt ac effeithio ar gyflenwadau dŵr yfed.

Hyblygrwydd i ffermwyr

Ym mis Rhagfyr, fe benderfynodd yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths beidio ag ehangu'r Parthau Nitrad ar draws Cymru gyfan.

Bwriad y parthau yw gosod cyfyngiadau ar wasgaru slyri er mwyn diogelu ansawdd dŵr.

Ond mynnodd Ms Griffiths ei bod hi am gynnig yr hyblygrwydd i ffermwyr sicrhau nad ydyn nhw'n llygru drwy fesurau gwirfoddol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weithredwr Afonydd Cymru, Dr Stephen Marsh-Smith, yn dweud fod Llywodraeth Cymru'n araf yn gweithredu

Yn ôl Prif Weithredwr Afonydd Cymru, Dr Stephen Marsh-Smith, roedd hynny'n gam "hollol ddiwerth".

Honnodd fod polisi cenedlaethol a chynlluniau llywodraeth leol wedi osgoi rhoi mesurau yn eu lle i wella ansawdd dŵr dro ar ôl tro.

Dywedodd bod yr ymddiriedolaethau afonydd wedi ysgrifennu sawl gwaith i'r llywodraeth a "dylai fod rhywbeth wedi digwydd amser hir iawn yn ôl".

"Mae 'na lefydd lle mae slyri yn mynd yn uniongyrchol i mewn i afonydd - gan ladd pysgod, eu hanafu ac atal eu hwyau rhag deor.

"Ac mae hynny yn arwain at ddirywiad parhaus bron a bod yn niferoedd eog a sewin."

Mewn datblygiad arall, mae pum elusen amgylcheddol wedi ysgrifennu at Ms Griffiths yn ei hannog i wneud mwy ynglŷn â'r "torri rheolau amgylcheddol amlwg sy'n digwydd".

Mae'r llythyr, sydd wedi'i lofnodi gan aelodau blaenllaw o Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru, yr RSPB, Cymdeithas Eog a Brithyll Cymru ac Afonydd Cymru, yn honni nad yw hi'n ymddangos bod unrhyw gynnydd o ran mynd i'r afael â'r broblem o lygredd amaethyddol "eang".

Dadlau bod ffermwyr yn cymryd eu dyletswyddau i'r amgylchedd yn "ddifrifol iawn" mae'r undeb amaeth, NFU Cymru.

Mae cyfnod o aeafau gwlyb wedi golygu bod storfeydd slyri dan bwysau, yn ôl is-lywydd yr undeb, Aled Jones, gan olygu bod rhai ffermwyr wedi gorfod gwasgaru gwrtaith ar eu caeau ar adegau nad oedd yn ddelfrydol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Mr Jones, sydd ag oddeutu 450 o wartheg llaeth ar fferm ger Caernarfon, wedi buddsoddi £100,000 mewn storfa newydd.

'Cyngor da a buddsoddiad'

Dywedodd bod y diwydiant yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, ac yn cynghori ffermwyr ar sut i osgoi llygru afonydd.

"Dwi ddim yn credu y byddai mwy o reolau'n gwella pethau. Gyda chyngor da a buddsoddiad fe allwn ni dargedu ein systemau, gwella'n storfeydd a'n defnydd o slyri.

"Bydd hynny'n golygu buddion i'r amgylchedd yn ogystal â'n busnesau ni."

Yn y cyfamser, ar gampws Coleg Sir Gar yng Ngelli Aur, sy'n gartref i 500 o wartheg llaeth, mae system arloesol sy'n tynnu dŵr o slyri yn cael ei dreialu.

Mae'r system, sydd wedi'i ddatblygu gyda chwmni Power and Water o Abertawe, yn gadael gwrtaith solid y mae modd ei stacio.

Yn ôl rheolwr y fferm, John Owen, mae 'na botensial mawr yma, gyda'r coleg wedi derbyn diddordeb "o bob cwr o'r byd".

"Mae'n gyffrous iawn - os allwn ni dynnu dŵr allan mae 'na fanteision arbennig wedyn ar gyfer trin y slyri yn saffach.

"Bydd llai o waith storio a hefyd gallwn ni wneud gwell defnydd o'r mwynau sydd yn y slyri."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn llwyr ymwybodol o'r effaith niweidiol y mae llygredd amaethyddol yn ei gael ar ecosystemau, pobl leol a'r economi wledig.

"Ym mis Rhagfyr y llynedd, yn dilyn ymgynghoriad ar Barthau Perygl Nitradau yng Nghymru, fe amlinellon ni ein bwriad i weithio gyda rhyngddeiliaid er mwyn cael y balans cywir o ran mesurau rheoliadol, mentrau gwirfoddol a buddsoddiad.

"Rydym yn disgwyl derbyn argymhellion is-grwp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar Lygredd Amaethyddol, sy'n cynnwys cynrhychiolwyr o bob sector, ar sut orau i ddelio a'r mater, erbyn diwedd Mawrth."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru fod un cwmni wedi cael dirwy o £45,320 yn ddiweddar, wedi i dair milltir o afon Llynfi ger Talgarth gael ei lygru.

Ychwanegodd y byddai'r corff yn targedu dalgylchoedd 25 afon ar draws Cymru er mwyn gwella'r modd mae arferion rheoli tir yn effeithio ar ansawdd dŵr.

Dywedodd Chris Rees o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Mae amddiffyn amgylchedd Cymru'n hanfodol i'r hyn rydym yn ei wneud.

"Rydym yn gweithio er mwyn atal llygredd rhag digwydd ac yn cynnig cyngor a chanllawiau ar yr arferion gorau."