Golffiwr benywaidd yn ennill brwydr i chwarae â'r dynion

  • Cyhoeddwyd
Lowri RobertsFfynhonnell y llun, Lowri Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Lowri Roberts yn chwarae gyda Trevor Roberts

Wedi tro pedol, fe fydd merched yn cael chwarae gyda'r dynion ar foreau Sadwrn mewn clwb golff ym Mro Morgannwg.

Daeth Clwb Golff Parc Cottrell ger Y Bont-faen dan y lach wedi cais aflwyddiannus gan aelod benywaidd i chwarae yng nghystadleuaeth y dynion ar foreau Sadwrn.

Roedd Lowri Roberts wedi ceisio newid y rheolau am ei bod hi'n methu â chwarae yng nghystadleuaeth y merched ganol wythnos a hithau'n gweithio llawn amser.

Dywedodd y clwb bod merched wastad wedi cael yr hawl i chwarae ar fore Sadwrn, ond bod trefnwyr y gystadleuaeth wedi camddehongli'r rheolau.

Yn ôl y clwb, bydd merched nawr yn cael chwarae ochr yn ochr â'r dynion ar fore Sadwrn, ond nid fel rhan o gystadleuaeth y dynion.

Dywedodd Ms Roberts ar ei chyfrif Twitter bod y frwydr i sicrhau hawliau cyfartal i aelodau benywaidd y clwb wedi bod yn un "faith a diflas... oedd werth pob eiliad", a'i bod yn bwriadu parhau i frwydro dros eraill yn yr un sefyllfa.

Ychwanegodd bod y datblygiad yn gam "bychan ond pwysig", er bod dynion a merched yn parhau i gystadlu mewn cystadlaethau gwahanol am y tro.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer wedi llongyfarch Lowri Roberts mewn ymateb i'w negeseuon Twitter ynglŷn â'r tro pedol

Roedd Ms Roberts wedi dadlau dros y newid ers iddi a'i gŵr ymuno â'r clwb yn 2015.

Gofynnodd am yr hawl i chwarae gyda'r dynion ar yr adegau pan nad oedd merch ar gael i farcio'r cerdyn a bod yn gwmni iddi hi.

Fe gafodd yr ateb y byddai hynny'n amhosib ac yn gosod sawl cynsail, a bod angen iddi ddod o hyd i aelod gwrywaidd i holi pwyllgor adran y dynion ar ei rhan os oedd am i'r mater fynd ymhellach.

Ond ar ôl anwybyddu'r cyngor hwnnw, a chyflwyno cynnig yn uniongyrchol yn ystod y cyfarfod blynyddol diwethaf, fe gafodd ei chynnig ei wrthod o un bleidlais yn unig, sef pleidlais y cadeirydd.

Mae datganiad wnaeth ymddangos ar wefan y clwb golff yn sgil y feirniadaeth yn pwysleisio mai mudiad ar wahân - Cymdeithas Aelodau Parc Cottrell (CPMA) - oedd yn gyfrifol am drefnu cystadlaethau yno, ac mai nhw yn unig oedd yn penderfynu ar drefniadau'r gwahanol adrannau ac â'r hawl i newid y rheolau.

'Yr un hawliau'

Dywedodd David Johns-Powell o Glwb Golff Parc Cottrell bod merched wedi cael yr hawl i chwarae ar fore Sadwrn ers i CPMA newid eu rheolau yn 1998.

"Ond mae'n ymddangos bod CPMA wedi anghofio am hyn," meddai.

"I osgoi unrhyw amheuaeth, mae gan y ddwy ryw union yr un hawliau aelodaeth, felly mae merched wastad wedi gallu chwarae golff ar ddydd Sadwrn."

Ychwanegodd bod cais Ms Roberts i alluogi i ferched gymryd rhan yng nghystadleuaeth y dynion ar fore Sadwrn wedi methu, a bod dim wedi newid o ran hynny.

Dywedodd mai'r prif reswm dros hyn oedd bod "dim digon o aelodau benywaidd eisiau chwarae golff cystadleuol ar ddydd Sadwrn".

Pwysleisiodd y byddai'r clwb yn croesawu mwy o ferched fel aelodau.