Biggar ac Alun Wyn yn ôl i Gymru yn erbyn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cennydd Davies: Gatland "heb osgoi gwneud newidiadau"

Mae saith newid i dîm Cymru i herio Ffrainc yn eu gêm olaf ym Mhencapwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Dan Biggar sydd wedi ei ddewis yn safle'r maswr, gyda Gareth Anscombe yn disgyn i'r fainc.

Mae Leigh Halfpenny yn dechrau yn safle'r cefnwr, gyda Liam Williams yn symud i'r asgell yn lle Steff Evans.

Scott Williams fydd yn bartner i Hadleigh Parkes yng nghanol y cae yn lle Owen Watkin, sydd ddim yn y garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Alun Wyn Jones fydd yn gapten wrth iddo ddod yn ôl i'r ail reng yn lle Bradley Davies, ac mae Josh Navidi wedi ei ddewis yn safle'r blaen asgellwr.

Dim ond Tomas Francis sy'n cadw ei le yn y rheng flaen wedi'r fuddugoliaeth dros Yr Eidal, gyda Rob Evans a Ken Owens yn dod i mewn i'r tîm.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Scott Williams, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (C), Justin Tipuric, Josh Navidi, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Lee, Bradley Davies, Aaron Shingler, Aled Davies, Gareth Anscombe, Steff Evans.

Dywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland ei fod wedi dewis tîm all gyflawni'r nod yn erbyn Ffrainc.

"Roedd rhai dewisiadau anodd, ond dyna'n union beth rydyn ni eisiau, rydyn ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae 'na ddewisiadau a phenderfyniadau i'w gwneud ac roedd rhaid i ni wneud rhai anodd y penwythnos yma."

Bastareaud i arwain Ffrainc

Canolwr Ffrainc, Mathieu Bastareaud, fydd capten Les Bleus yn Stadiwm Principality, ar ôl i'r bachwr Guilhem Guirado gael anaf i'w ben-glin.

Adrien Pelissie fydd yn cymryd lle Guirado, a bydd Cedate Gomes Sa yn dechrau fel prop yn lle Rabah Slimani.

Ymhlith yr olwyr, bydd Gael Fickou yn dechrau yn lle Hugo Bonneval yn safle'r cefnwr.