Dave Edwards yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
david edwardsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Dave Edwards gêm gyntaf Cymru yn Euro 2016 yn erbyn Slofacia

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Dave Edwards, wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Fe wnaeth Edwards, 32, ennill 43 cap i Gymru dros gyfnod o 10 mlynedd, gan sgorio dair gwaith.

Roedd yn aelod o'r garfan gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016, ac fe chwaraeodd dair gwaith yn ystod y gystadleuaeth.

Wrth gyhoeddi ei garfan ddiweddaraf, dywedodd rheolwr Cymru Ryan Giggs: "Hoffwn ddiolch iddo am bopeth mae o wedi'i wneud dros Gymru, mae wedi gwasanaethu'i wlad yn wych."

Mewn datganiad ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ychwanegodd Edwards: "Mae wedi bod yn fraint cynrychioli fy ngwlad dros y 10 mlynedd diwethaf a dwi'n falch iawn o beth mae'r garfan wedi cyflawni yn y blynyddoedd diwethaf.

"Roedd chwarae dros Gymru yn rowndiau terfynol Euro 2016 heb os yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ac mae'r haf wnâi fyth anghofio.

"Hoffwn ddymuno'n dda i weddill y garfan ar gyfer y gemau i ddod."