Giggs yn ychwanegu dau aelod i staff hyfforddi tîm Cymru

  • Cyhoeddwyd
Albert Stuivenberg a Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Stuivenberg a Giggs weithio gyda'i gilydd yn Manchester United

Mae Ryan Giggs wedi cadarnhau ei fod wedi penodi dau aelod arall i dîm hyfforddi carfan bêl-droed Cymru.

Fe fydd Albert Stuivenberg a Tony Strudwick yn ymuno ag Osian Roberts a Tony Roberts, dau aelod o staff y mae'r rheolwr newydd wedi penderfynu cadw.

Osian Roberts oedd is-reolwr y tîm dan Chris Coleman, a bydd Tony Roberts yn parhau i hyfforddi'r golwyr.

Fe wnaeth Giggs weithio gyda Stuivenberg, sydd o'r Iseldiroedd, pan oedd y ddau ohonyn nhw'n hyfforddwyr yn Manchester United dan Louis van Gaal.

Mae Strudwick yn ymuno â'r staff hyfforddi yn lle'r pennaeth perfformiad blaenorol o gyfnod Coleman wrth y llyw, Ryland Morgans.

'Cymysgedd da'

Fe wnaeth Giggs gadarnhau ei staff cynorthwyol wrth gyhoeddi ei garfan gyntaf, a hynny ar gyfer y daith i Gwpan China'r wythnos nesaf.

"Dwi'n falch iawn gyda'r staff sy'n dod mewn, roedd pob un ohonyn nhw'n ddewis cyntaf i fi," meddai.

"Yn amlwg mae Osh wedi bod o gwmpas y garfan ers sbel, mae o wedi bod yn help mawr o ran y chwaraewyr ifanc sy'n dod drwyddo, ei wybodaeth, y cyfraniad fydd o'n ei wneud wrth fynd 'mlaen."

Ychwanegodd: "Mae cymysgedd da yn fanno o bobl dwi'n 'nabod yn dda a phobl sydd wedi cyfrannu i bêl-droed Cymru dros y blynyddoedd, a'r llwyddiant 'dyn ni wedi'i gael."