Arestio dyn o Lerpwl wedi ymosodiad yng Nghaergybi

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dyn 22 oed o Lerpwl wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi ar 6 Mawrth.

Cafodd dyn 28 oed o ardal Caergybi anafiadau difrifol wedi'r ymosodiad tu allan i fflatiau Waterside yn y dref toc cyn hanner nos.

Mae bellach yn gwella yn yr ysbyty.

Mae'r dyn o Lerpwl hefyd wedi ei arestio a'i gyhuddo mewn cysylltiad gyda digwyddiad arall llai difrifol o drais ar Stryd y Farchnad ar 21 Chwefror.

Bydd y dyn yn ymddangos yn llys ynadon fore Gwener a bydd yr heddlu'n gofyn am ganiatâd i'w holi am gyfnod hirach.

Yn ogystal mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i lygad dystion gysylltu gydag unrhyw wybodaeth trwy ffonio 101.