Is-reolwr newydd Cymru yn dysgu'r anthem genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Albert StuivenbergFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Albert Stuivenberg yn Sain Ffagan ddydd Iau ar gyfer cyhoeddi carfan Cymru

Mae is-reolwr newydd tîm pêl-droed Cymru wedi dweud ei fod yn bwriadu dysgu'r anthem genedlaethol.

Yn ystod y gynhadledd i'r wasg ddydd Iau fe gadarnhaodd Ryan Giggs y bydd Albert Stuivenberg yn ymuno â'i dîm hyfforddi.

Tony Strudwick, Osian Roberts a Tony Roberts yw'r aelodau staff eraill fydd yn helpu Giggs.

Dywedodd yr Iseldirwr ei fod wedi bod yn brysur yn ceisio dysgu geiriau Hen Wlad Fy Nhadau cyn y daith i chwarae yng Nghwpan China wythnos nesaf.

'Anodd'

"Mae dal yn anodd iawn," meddai.

"Ar y ffordd i China bydd gyda ni ddigon o amser ar yr awyren.

"Dyma yw fy uchelgais. Dw i wedi dod o hyd i fideo ac wedi gofyn sut i ynganu'r geiriau yn y ffordd gywir."

Mae'r cyn-hyfforddwr gyda thîm dan-21 Yr Iseldiroedd yn credu bod dysgu'r anthem yn rhan o'i swydd.

"Dw i ddim yn Gymro, dw i'n Iseldirwr - mae rhai pethau allwch chi ddim newid - ond dw i'n gweithio ar gyfer tîm pêl-droed Cymru a rhan o hynny yw dysgu'r anthem genedlaethol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Stuivenberg weithio gyda Giggs pan oedd y ddau yn cael eu cyflogi gan dîm Manchester United

Nid dyma'r tro cyntaf i Albert Stuivenberg weithio gyda Ryan Giggs. Roedd y ddau yn rhan o dîm hyfforddi Louis van Gaal gyda Manchester United rhwng 2014 a 2016.

Ond fydd herio rheolwr newydd Cymru ddim yn broblem iddo, meddai.

"Mae'n gwybod beth mae eisiau [Giggs], yr hyn mae'n dda am wneud a beth ydw i'n dda am wneud, a gyda'n gilydd dw i'n credu y gallwn ni fod yn gefnogol iawn i'r holl staff cynorthwyol i fod yn llwyddiant."

Ychwanegodd Stuivenberg ei fod "wedi cyffroi" ynglŷn â chael gweithio gyda Gareth Bale ond hefyd ei fod yn edrych ymlaen at "ddod i adnabod yr holl chwaraewyr".