Cymru'n anelu am yr ail safle yn y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm rygbi Cymru yn anelu at orffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn eu gêm olaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.
Byddai buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Les Bleus yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn sicrhau'r ail safle.
Ond petai Cymru'n colli, a Lloegr a'r Alban yn ennill eu gemau nhw, fe allai dynion Warren Gatland orffen mor isel â'r pumed safle.
Mae rhybudd i deithwyr i'r brifddinas gynllunio o flaen llaw oherwydd nifer y cefnogwyr fydd yn teithio, a gorymdaith ddigyswllt yn ystod y dydd.
Saith newid i'r tîm
Bydd y gic gyntaf yng Nghaerdydd am 17:00, a bydd Cymru'n gobeithio ymestyn rhediad llwyddiannus yn erbyn Ffrainc yn y brifddinas.
Nid yw Les Bleus wedi ennill yng Nghaerdydd ers 2010, ond Ffrainc oedd yn fuddugol ym Mharis y llynedd, gan roi diwedd ar rediad gwael yn erbyn Cymru yn y Chwe Gwlad.
Mae Iwerddon eisoes wedi ennill y bencampwriaeth, ac fe fyddan nhw'n ceisio sicrhau'r Gamp Lawn yn erbyn Lloegr yn Twickenham.
Mae Warren Gatland wedi gwneud saith newid 'r tîm gurodd Yr Eidal ar gyfer ymweliad y Ffrancwyr, gan gynnwys dewis Dan Biggar yn safle'r maswr yn lle Gareth Anscombe.
Mae hefyd wedi galw Leigh Halfpenny yn ôl i safle'r cefnwr, gyda Liam Williams yn symud allan i'r asgell.
Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto, ar ôl cael ei ddewis yn yr ail reng.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; George North, Scott Williams, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (C), Justin Tipuric, Josh Navidi, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Nicky Smith, Lee, Bradley Davies, Aaron Shingler, Aled Davies, Gareth Anscombe, Steff Evans.
Mathieu Bastareaud fydd capten Les Bleus yn Stadiwm Principality, ar ôl i'r bachwr Guilhem Guirado gael anaf i'w ben-glin.
Mae Adrien Pelissi, Cedate Gomes Sa a Gael Fickou hefyd wedi eu galw i'r 15.
Cyngor teithio
Bydd giatau Stadiwm Principality yn agor am 13:30, ac unwaith eto mae cefnogwyr yn cael eu hannog i gyrraedd yn gynnar oherwydd y mesurau diogelwch ar y giatiau.
Bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau rhwng 13:00 a 20:00:
Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug;
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth;
Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood;
Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor;
Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair;
Heol y Tollty ar ei hyd;
Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Bydd gorymdaith Diwrnod Gwrth-Hiliaeth blynyddol y Cenhedloedd Unedig hefyd yn digwydd ddydd Sadwrn, gan greu fwy o brysurdeb yng nghanol y ddinas.
Cymru v Ffrainc, 17:00, Stadiwm Principality, Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018