Arian tuag at atal tirlithriadau pellach ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
ffordd biwmaresFfynhonnell y llun, @abcpowermarine
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffordd ei chau wedi i rannau o'r ffens a'r wal gael eu difrodi yn y llifogydd llynedd

Mae arian pellach wedi cael ei glustnodi er mwyn gwneud gwaith i atal rhagor o dirlithriadau ar ffordd yn Ynys Môn.

Mae'r A545 ym Miwmares wedi gorfod cau sawl gwaith yn ddiweddar yn dilyn llifogydd a thywydd garw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates y byddai Llywodraeth Cymru'n gwario £75,000 ar sefydlogi'r llethrau ger y ffordd, i gyd-fynd â £60,000 gan gyngor tref Biwmares a £24,000 gan Gyngor Môn.

Mae hynny'n ychwanegol at y £374,000 a gyhoeddwyd fis yn ôl gan y llywodraeth i gwrdd â chostau trwsio'r ffordd yn dilyn tirlithriad ym mis Tachwedd 2017.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd difrod mawr i'r ffordd rhwng Porthaethwy a Biwmares yn dilyn tywydd garw

Caewyd y ffordd am nifer o ddyddiau yn dilyn y difrod, gan achosi oedi sylweddol i deithwyr.

Tagfeydd

Dywedodd y cynghorydd Bob Parry, o Gyngor Sir Ynys Môn: "Mae tirlithriadau wedi cael effaith mawr ar y llwybr strategol pwysig yma dros y blynyddoedd diwethaf.

"Maent wedi achosi tagfeydd traffig di-ri, ac wedi cael effaith andwyol ar drigolion a busnesau lleol, yn enwedig."

"Bydd y cyllid yma ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Tref Biwmares a Chyngor Sir Ynys Môn yn ein galluogi i wella gwydnwch yr A545 o dan fynwent Biwmares a darparu'r ateb hirdymor yn y lleoliad yma."