Aur i'r Gymraes Menna Fitzpatrick yn PyeongChang
- Cyhoeddwyd
Mae'r sgïwr rhannol ddall o Gymru, Menna Fitzpatrick, a'i thywysydd Jen Kehoe, wedi ennill y fedal aur yn y Slalom i fenywod rhannol ddall yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn PyeongChang.
Roedd y par wedi curo Henrieta Farkasova a Natalia Subrtova o Slofacia o 0.66 eiliad.
Roedden nhw eisioes wedi ennill dwy fedal arian ac un efydd yn y gemau yn Ne Corea.
Dywedodd Menna Fitzpatrick wrth y BBC: "Roedden ni am ddangos yr hyn roedden ni'n gallu ei wneud.
"Rwy'n falch iawn o'r hyn rydym wedi ei gyflawni allan yn fanna."
Dyma'r fedal aur gyntaf i tîm GB yn y gemau yn PyeongChang.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018