Cleifion byddar: 'Angen gwella mynediad i'r GIG Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae yna ffordd i fynd cyn bod cleifion byddar yn cael gwell mynediad i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, yn ôl un elusen.
Roedd yna addewid y byddai yna welliannau bedair blynedd yn ôl, ac er bod yna beth symud ymlaen wedi bod, dywed Gweithredu ar Golled Clyw Cymru bod pobl byddar neu rhannol fyddar yn dal i gael eu gorfodi i ddefnyddio'r ffôn neu fynd at eu meddygfa.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawi'r adroddiad ac y bydd yn ystyried y canfyddiadau.
Mae'r elusen, oedd yn cael ei adnabod fel yr RNID, wedi cael ymatebion gan dros 300 o bobl i'w harolwg.
Canfyddiadau
Roedd dros un o bob tri o bobl wnaeth ymateb i'r arolwg yn ymweld â'r feddygfa er mwyn gwneud apwyntiad, ond dim ond 17% oedd yn nodi bod yn well ganddyn nhw ofyn am apwyntiad yn y modd yma.
Roedd dros chwarter yn cael trafferthion cael apwyntiad brys ar yr un diwrnod, neu gael cyngor meddygol pan roedd y feddygfa ynghau.
Roedd dros hanner yn dweud nad oedd meddygon a nyrses wedi sicrhau a oedden nhw wedi deall yr hyn roedd wedi cael ei ddweud.
Roedd dros draean yn dweud nad oedd meddygon a nyrses yn siarad yn ddigon clir, neu eu bod yn siarad yn rhy gyflym.
Dywed yr elusen bod y gwelliannau oedd eu hangen yn cynnwys cyflwyno technoleg i bob meddygfa yng Nghymru er mwyn cofnodi anghenion claf sydd wedi colli eu clyw, wrth gyfathrebu.
Mae yna hefyd argymhellion, gan gynnwys cyngor ar gyfathrebu a hyfforddi.
Yng Nghymru mae dros 575,500 o bobl yn fyddar neu yn rhannol fyddar.
'Lle ar gyfer gwelliannau'
Mae Fosia Ibrahim o'r Barri yn dweud nad yw hi wedi gweld unrhyw welliannau, a'i bod hi'n methu ebostio neu anfon neges testun i'r meddyg.
"Rwy'n gorfod bwcio apwyntiad ymhell o flaen llaw. Mewn argyfwng mae hynny yn anodd iawn," meddai.
"Weithiau rwy'n gofyn i ddehonglwr drefnu apwyntiad oherwydd dwi'n methu defnyddio'r ffôn.
"Dwi ddim eisiau gorfod dibynnu ar fy mhlant i wneud hynny."
Dywedodd Rebecca Woolley, cyfarwyddwr yr elusen Gweithredu ar Golled Clyw Cymru:
"Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi ei fod hi'n gymhleth. Mae yna gost siwr o fod yma, i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i staff sy'n delio gyda chleifion.
"Ond dwi'n meddwl bod yna rhai pethau y gellid gwneud na fyddai yn costio i'r gwasanaeth iechyd allai gael effaith ar bobl sy'n derbyn gofal.
'Cryfhau'r safonau'
Mae Charlotte Jones BMA Cymru wedi croesawi'r adroddiad gan ddweud ei bod hi'n swnio fel pe bai "lle ar gyfer gwelliannau amlwg," gan gynnwys codi ymwybyddiaeth.
"Beth sy'n bwysig fodd bynnag yw bod cleifion sy'n cael trafferth cael y gwasanaeth mae nhw ei angen yn cyfathrebu gyda'i meddygfa am hyn, neu drafod hyn gyda'u harbenigwr gofal.
"I ni'n ymwybodol nad yw'r claf ar bob achlysur yn clywed a deall bob dim i ni'n dweud, dyw hynny ddim yn unig gyda chleifion sydd yn rhannol fyddar, ond rydym yn derbyn bod y sefyllfa yn waeth gyda rhai cleifion i ddeall yn llawn gwybodaeth sydd ddim yn cael ei gyflwyno yn y ffordd gywir."
Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod "y safonau wedi helpu gwella mynediad cleifion byddar i wasanaethau iechyd, ond ei bod yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r rhwystrau sydd yn dal i fodoli.
"Mae adnabod a nodi anghenion cyfathrebu cleifion sydd wedi colli eu clyw yn allweddol, dyna paham ym mis Tachwedd fe wnaethom gryfhau'r safonau gan wneud hi'n ofynnol i bob meddygfa adnabod a chofnodi gwybodaeth ag anghenion cyfathrebu claf sy'n fyddar."