Marwolaeth merch fach: Rhybudd am sylwadau ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Kiara MooreFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai Kiara Moore wedi bod yn dair oed yr wythnos nesaf

Mae'r heddlu wedi rhybuddio y gallai pobl sy'n gwneud sylwadau maleisus ar-lein ynglŷn â marwolaeth merch ddwy oed yn Aberteifi fod yn torri'r gyfraith.

Cafodd Kiara Moore ei chanfod yn Afon Teifi ddydd Llun ar ôl iddi gael ei gadael mewn car oedd wedi'i barcio ar lithrfa. Bu farw'n ddiweddarach.

Ddydd Mercher, galwodd Heddlu Dyfed-Powys i bobl "feddwl yn ofalus iawn" cyn gwneud sylwadau ar-lein, a pheidio dyfalu am amgylchiadau'r farwolaeth.

Dywedodd y llu bod eu hymchwiliad yn parhau i geisio deall holl amgylchiadau'r "digwyddiad trasig yma", ac y bydd hynny'n cynnwys profion ar y car, Mini.

Fe wnaethon nhw hefyd gadarnhau nad oedd y car wedi'i ddwyn - fel oedd wedi'i ofni gan y teulu i ddechrau - ac nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran BMW, y cwmni sy'n cynhyrchu'r Mini, pe bai angen y byddant yn rhoi cymorth i ymchwiliad yr awdurdodau mewn "unrhyw fodd posib."

Cafodd cwest i amgylchiadau marwolaeth Kiara ei agor a'i ohirio fore Mercher.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y car wedi'i barcio ar y llithrfa yma ar lan yr afon

Dywedodd y llu ar Twitter eu bod yn "ymwybodol o sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol, ac rydyn ni'n edrych ar rheiny".

"Bydd sylwadau sy'n cael eu hystyried i fod yn faleisus yn cael eu cofnodi a gall yr heddlu weithredu ar hynny."

'Rydw i mor sori'

Mewn neges ar Facebook, sydd bellach wedi'i ddileu, dywedodd mam Kiara, Kim Rowlands: "O ganlyniad i fy nhwpdra fy hun, byddaf yn gorfod byw gydag euogrwydd hyn am weddill fy mywyd.

"Mae mam yn dy garu di, ac rydw i mor sori."

Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau wedi'u gadael i Kiara Moore ger lleoliad y digwyddiad

Mewn neges Facebook dywedodd AC Ceredigion, Elin Jones fod y farwolaeth yn un drasig ac y dylai sylwadau maleisus sy'n ychwanegu at alar y teulu stopio ar unwaith.

"Mae angen caniatáu i deulu a ffrindiau alaru ac i gofio am fywyd ifanc nodedig," meddai.

"Pwy bynnag ydych chi, stopiwch. Mae pob teulu yn haeddu galaru mewn tawelwch a pharch."

Agor cwest

Cafodd swyddogion eu galw i chwilio am Kiara am tua 15:30 ddydd Llun, a dywedon nhw fod y cerbyd wedi'i weld ddiwethaf ger busnes awyr agored ei thad ar lan yr afon.

I ddechrau roedd y teulu'n credu bod y car wedi'i ddwyn, gyda Kiara ynddo, ac fe wnaethon nhw apelio am help i ddod o hyd iddo.

Wedi iddi ddod i'r amlwg bod y car yn yr afon, cafodd y ferch fach ei thynnu o'r cerbyd a'i chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Uwch Grwner Ceredigion wedi agor a gohirio cwest i amgylchiadau marwolaeth y ferch, a clywodd y gwrandawiad fod Kiara wedi ei chanfod yn farw pan gafodd ei thynnu o'r afon ger y lithrfa.