Ryan Giggs yn barod am 'gêm anodd' yng Nghwpan China

  • Cyhoeddwyd
Cymru'n hyfforddiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r garfan wedi bod yn hyfforddi yng nghanolfan chwaraeon Guangxi dros y dyddiau diwethaf

Mae disgwyl i Gareth Bale chwarae o leiaf rhyw ran wrth i Gymru chwarae yng ngêm agoriadol Cwpan China ddydd Iau.

Mae Cymru'n herio China yn Nanning yng ngêm gyntaf Ryan Giggs wrth y llyw, a byddan nhw'n wynebu naill ai Uruguay neu'r Weriniaeth Tsiec ddydd Llun.

Dyw Aaron Ramsey ddim yn rhan o'r garfan am y bydd yn cael "llawdriniaeth fechan", tra bo pedwar arall - Joe Ledley, Ethan Ampadu, Tom Lawrence a Neil Taylor - wedi tynnu 'nôl hefyd.

Gallwch wylio'r gêm yn fyw ar ein gwefan, gyda sylwebaeth BBC Radio Cymru, o 11:25 ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Giggs wedi cadw Osian Roberts fel rhan o'r tîm hyfforddi

Fe dreuliodd Giggs bedair gêm fel rheolwr dros dro Manchester United yn 2014, ond dyma fydd ei gêm gyntaf fel rheolwr parhaol.

Gydag ef megis dechrau ar ei yrfa fel rheolwr, bydd Giggs yn mynd benben ag un o ffigyrau mwyaf profiadol y byd pêl-droed, Marcello Lippi - un o ddau reolwr yn unig sydd wedi ennill Cwpan y Byd a Chynghrair y Pencampwyr.

Disgrifiad,

Cafodd Gareth Bale dipyn o groeso wrth iddo gyrraedd China gydag Adam Matthews

"Bydd hi'n gêm anodd yn erbyn China," meddai Giggs mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher.

"Mae ganddyn nhw reolwr gwych, ac ar ben hynny mae hi'n gêm gartref i China. Rydyn ni wedi gwylio fideos, ac maen nhw'n ymosodol iawn.

"Maen nhw'n chwarae pêl-droed deniadol ar y droed flaen, felly gyda hynny mewn meddwl dylai hi fod yn gêm dda gyda digon o goliau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel Cymru, dim ond unwaith mae China wedi cyrraedd Cwpan y Byd, a hynny yn 2002

Mae'n bosib y bydd pedwar chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf - amddiffynnwr Brentford Chris Mepham, amddiffynnwr Abertawe Connor Roberts, ymosodwr Preston Billy Bodin a golwr Ipswich Michael Crowe.

"Rydyn ni'n gallu defnyddio chwe eilydd felly fe fyddai'n eu defnyddio nhw i gyd fwy na thebyg," meddai Giggs.