Annog 'mwy o uchelgais' ar gyfer arloesi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Dylai busnesau yng Nghymru fod yn fwy uchelgeisiol ac yn barod i gydweithio wrth geisio datblygu, yn ôl asiantaeth llywodraeth.
Mae Innovate UK - asiantaeth sydd â'r dasg o gefnogi cynlluniau technegol newydd i hybu'r economi - yn meddwl dylai Cymru wneud mwy.
Cefndir yn y diwydiant fferyllol sydd gan brif weithredwr Innovate UK, Dr Ruth McKernan, ac er iddi ddweud bod "Cymru'n dda iawn ar rai pethau", mae hi'n credu y gallai'r wlad fod yn "yn fwy uchelgeisiol yn eu ceisiadau i Innovate UK".
Mae'r asiantaeth wedi dosbarthu mwy na £1.8bn ers 2007 i 8,000 o sefydliadau, ac mae rhai ystadegau yn dangos eu bod wedi bod o gymorth i greu 70,000 o swyddi.
3% o geisiadau o Gymru
Ond dim ond £8.4m o'r arian aeth i Gymru yn 2016/17 - hanner y swm a aeth i ranbarthau tebyg o ran maint, fel dwyrain canolbarth Lloegr neu Sir Efrog.
Cymru sydd â'r lefel isaf o gynhyrchiant allan o holl wledydd a rhanbarthau'r DU.
Ychwanegodd Dr McKernan: "Mae ein data yn dweud mai dim ond 3% o geisiadau i Innovate UK sy'n dod o Gymru, a chredaf fod 'na gwmnïau bach arloesol a chreadigol, yn ogystal ag academyddion yn barod i symud eu busnesau i Gymru.
"Beth sydd angen ei wneud yw i glystyrau o fusnesau i gydweithio a datblygu."
Cydweithio yng Nghaerdydd
Mewn un enghraifft o gydweithio, mae cwmni sy'n gwneud propiau ffilm a rhaglenni teledu wedi creu model o'r corff dynol i gynorthwyo cwmni arall i ddatblygu technoleg sganio uwchsain.
Fe fydd cwmni MedaPhor yng Nghaerdydd yn defnyddio'r fodel i hyfforddi defnyddwyr y sganwyr newydd.
Y gobaith yw y bydd meddygon teulu a nyrsys yn gallu defnyddio sganwyr uwchsain mewn meddygfeydd i ganfod problemau yn gynharach, yn hytrach na chyfeirio cleifion i'r ysbyty.
Dywedodd Nick Sleep, Prif Swyddog Technegol MedaPhor: "Rydym yn ceisio chwyldroi technoleg sganio uwchsain.
"Dim ond 2% o feddygon sy'n gallu defnyddio sganwyr uwchsain, ac fe hoffem weld y ffigwr hynny'n codi.
"Rydyn ni'n ceisio addysgu arbenigwyr sut i ddefnyddio'r sganwyr yn well ac yn gyflymach."
Mae tasglu newydd sydd wedi ei sefydlu i oruchwilio datblygiadau ym myd busnes, dan gadeiryddiaeth Dr Drew Nelson, prif weithredwr cwmni IQE ac is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, yn galw am sefydlu canolfannau twf i gefnogi a hyrwyddo mentergarwch ym myd busnes yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Riordan fod angen i'r llywodraeth, busnesau a phrifysgolion gydweithio mewn modd mwy agored ac nid dim ond mewn camau bach ar ôl i gynlluniau gael eu rhoi ar waith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2016