Euro 2019: Bosnia dan-21 1-0 Cymru dan-21

  • Cyhoeddwyd
Luke PillingFfynhonnell y llun, Rex Features

Cafodd tîm pêl-droed dan-21 Cymru ergyd fawr i'w gobeithion i gyrraedd Euro 2019 wrth iddyn nhw gael eu trechu mewn gêm ragbrofol yn Bosnia.

Byddai Cymru wedi mynd heibio i Bosnia yn y tabl pe bydden nhw wedi ennill, ond roedd ergyd o bellter gan Darko Todorovic yn ddigon i selio'r gêm i'r tîm cartref.

David Brooks ddaeth agosaf i Gymru o gic rydd, a cafodd cais am gic o'r smotyn ei wrthod gan y dyfarnwr hefyd.

Mae Cymru nawr bum pwynt y tu ôl i Bosnia a Romania yng Ngrŵp 8 gyda phedair gêm yn weddill.