Ysgolion Môn: Cyngor i holi rhieni

  • Cyhoeddwyd
ynys mon

Bydd ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal ar gynigion i gau dwy ysgol gynradd ar Ynys Môn.

Mae swyddogion addysg wedi gofyn i gynghorwyr gynnal ymgynghoriad arall er mwyn rhoi cyfle i reini Ysgol Beaumaris ac Ysgol Talwrn i feddwl am opsiynau fyddai'n golygu nad oes rhaid cau'r ysgolion.

Hwn fydd y trydydd ymgynghoriad i gael ei gynnal.

Mae yna wrthwynebiad chwyrn wedi bod yn lleol i'r bwriad i gau'r ddwy ysogol.

Y bwriad gwreiddiol oedd cau Ysgol Talwrn, sydd a 43 o ddisgyblion, a'u symud nhw i Ysgol y Graig, ger Llangefni.

Roedd y sir hefyd yn argymell fod 50 o ddisgyblion Ysgol Beaumaris yn symud i Ysgol Llandegfan neu Ysgol Llangoed.