Heddlu'n rhybuddio dyn laddodd crëyr i achub hwyaden
- Cyhoeddwyd

Mae dyn laddodd crëyr oherwydd ei fod yn ceisio achub hwyaden fach roedd yr aderyn wedi ei fwyta, wedi cael rhybudd gan yr heddlu.
Dywedodd Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru ar eu cyfrif Twitter fod y dyn wedi gweld y crëyr yn bwyta'r hwyaden newydd anedig cyn iddo geisio ei hachub.
Er i'r dyn lwyddo i ryddhau'r hwyaden yn ddiogel o berfedd yr aderyn ysglyfaethus, fe gafodd y crëyr ei ladd yn ystod yr ymdrechion.
Fe ychwanegodd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad: "Fedrwch chi ddim gwneud peth fel hyn i fyny. Dywedodd swyddogion fod yr hwyaden yn dal i fod yn fyw, er yn stumog y crëyr."
Dywedodd elusen bywyd gwyllt yr RSPB bod cyfreithiau'n bodoli i warchod pob aderyn, a bod dirwyon a dedfrydau o garchar yn cael eu defnyddio i gosbi pobl sy'n troseddu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd14 Awst 2017