Trywanu Dinbych: Dynes wedi marw o'i hanafiadau
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ei arestio yn dilyn digwyddiad tua 04:00 dydd Sadwrn
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dynes a gafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn digwyddiad yn Ninbych yn gynnar fore Sadwrn wedi marw o'i hanafiadau.
Cafodd plismyn eu galw i brif stryd y dref am 04:00 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod dau o bobl wedi cael eu trywanu.
Bu'n rhaid i ddyn a dynes gael eu cludo i ysbyty i gael triniaeth.
Cafodd dyn ei gadw yn y ddalfa, a'i gyhuddo mewn cysylltiad a'r digwyddiad. Bydd yn mynd o flaen ynadon yn Llandudno fore Llun.
Dywedodd yr heddlu bod eu hymchwiliad i'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2017
- Cyhoeddwyd12 Awst 2017