Walis George yn ymddeol fel Prif Weithredwr Grŵp Cynefin
- Cyhoeddwyd
Gweld cymunedau sy'n ffynnu yn sicrhau bod diwylliant a'r iaith Gymraeg yn cael cyfle i lewyrchu, dyna yw gobaith prif weithredwr ar gyfer un o gymdeithasau tai mwyaf Cymru wrth iddo ymddeol o'i waith wedi dros chwarter canrif o wasanaeth.
Mae Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, wedi bod yn gweithio ym maes tai'r gogledd ers 26 o flynyddoedd.
Nod y gymdeithas yw diwallu anghenion tai, gan roi cyfle i bobl ifanc a theuluoedd barhau i fyw yn eu cymunedau a chynnig adfywiad i ardaloedd sy'n ei chael hi'n anodd.
"Law yn llaw â hynny, mae cymunedau sy'n ffynnu yn sicrhau bod diwylliant a'r iaith Gymraeg hefyd yn cael cyfle i lewyrchu yn yr ardaloedd gwledig ac mae'r weledigaeth honno yn rhywbeth sydd wastad wedi bod yn bwysig i mi." meddai Mr George.
Yn ystod ei yrfa, bu Walis George yn gyfrifol am oruchwylio nifer o gynlluniau uchelgeisiol, gan gynnwys ffurfio Grŵp Cynefin nôl yn 2014, datblygu Canolfan Fenter Congl Meinciau ym Mhen Llŷn a sefydlu'r gwasanaeth Hwylusydd Tai Gwledig cyntaf yn y gogledd.
Yn wreiddiol o Lanelli, Walis George oedd yr unig blentyn o'r stryd lle roedd yn byw i fynychu'r ysgol Gymraeg leol, Ysgol Gymraeg Dewi Sant, yn y dref.
Bu'n gweithio fel gwas sifil yn Llanelli ac Aberystwyth, ac fe dreuliodd dair blynedd yn gweithio i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg cyn ennill swydd fel Swyddog Tai i gymdeithas dai Secondary Housing Association for Wales yng nghymoedd y de.
Ond fe symudodd ef a'i wraig, sydd â'i gwreiddiau yn Sir y Fflint i Wynedd, oherwydd eu hawydd i fagu teulu mewn ardal Gymraeg.
Yn ystod ei yrfa, bu Mr George yn gyfrifol am oruchwilio nifer o gynlluniau uchelgeisiol, gan gynnwys ffurfio cymdeithas dai Grŵp Cynefin nôl yn 2014, datblygu Canolfan Fenter Congl Meinciau ym Mhen Llŷn a sefydlu'r gwasanaeth Hwylusydd Tai Gwledig cyntaf yn y gogledd.
"Mae cymaint o bethau y gallwn eu rhestru fel uchafbwyntiau," meddai Walis George, "ond dwi'n falch iawn iawn o fodolaeth Grŵp Cynefin.
"Mae'r gwerthoedd creiddiol oedd yn rhan o'r ddwy gymdeithas, Cymdeithas Tai Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd a unwyd yn 2014 i greu Grŵp Cynefin yr un mor fyw a pherthnasol heddiw."
Wrth ffarwelio â dros 200 o staff Grŵp Cynefin, mae Walis George yn hynod o falch fod y gymdeithas dai yn darparu gwasanaethau'n gwbl ddwyieithog.
"Mae'n debyg fel corff sy'n gweithio ar draws y gogledd, bod y ffaith bod mwyafrif helaeth o'r staff yn gallu'r Gymraeg yn eithaf unigryw.
"Clod i'r staff oedd llwyddiant sefydlu Grŵp Cynefin ac iddyn nhw mae'r diolch bod dros 4,550 o dai yn ein heiddo heddiw.
"Dwi hefyd yn falch iawn o'r ffaith bod Grŵp Cynefin yn cynnig cymaint mwy na thai erbyn hyn hefyd. Gyda gwasanaethau Gorwel yn cefnogi pobl sydd angen cymorth mewn gwahanol feysydd, megis trais yn y cartref, yr Hwb yn Ninbych yn cefnogi pobl ifanc a phobl ddi-waith a chynlluniau tai gofal ychwanegol yn rhoi gwasanaeth arbennig i bobl hŷn.
Mae gan Walis nifer o hanesion am droeon trwstan yn ystod ei gyfnod gyda'r gymdeithas, gan gynnwys siarad am hanner awr mewn gweithgor tenantiaid yn fuan wedi sefydlu Grŵp Cynefin a gwreigan yn holi o'r cefn wedi iddo orffen siarad: "Sgiwsiwch fi, pwy ydach chi 'lly?"
Mae hefyd yn cofio cyfnod anoddaf ei yrfa fel un oedd yn ymwneud â'i staff yn 2011, pan gollwyd dau gydweithiwr yn ystod yr un flwyddyn.
Cyfnod anoddaf ei yrfa
"Roedd colli'r ddau yn sioc a thristwch llethol i'r tîm cyfan a thra bod ni'n ceisio cefnogi'n gilydd roedd rhaid parhau i gynnig gwasanaeth i'n tenantiaid a'n partneriaid.
"Roedden nhw'n ffrindiau yn ogystal â chydweithwyr i ni a byddant yn ein calonnau am byth."
Wrth ymddeol dywed nad oes dim cynlluniau penodol heblaw gollwng y cyfrifoldeb i eraill.
Beth nesaf i Walis George?
"Rhwng cadw tŷ a'r ardd yn daclus, dwi hefyd yn gobeithio cael mwy o amser i grwydro Eryri ac arfordir Llŷn a Môn pan ddaw'r gwanwyn a'r haf a chefnogi tîm rygbi'r Scarlets yn yr hydref a'r gaeaf."
Mae Walis hefyd am ddymuno'n dda iawn i Shan Lloyd Williams fel y Prif Weithredwr newydd, ac mae hefyd yn edrych ymlaen at fod yn daid am y tro cyntaf.
Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin, Dafydd Lewis: "Mae ein diolch i Walis George am ei wasanaeth i'r sector dai, nid yn unig yn y gogledd, ond yn genedlaethol yn enfawr.
"Mae ei frwdfrydedd a'i agosatrwydd wedi gwneud cydweithio ag ef fel aelodau'r Bwrdd, fel staff, fel tenantiaid ac asiantaethau partner yn waith rhwydd iawn.
"Bydd colled fawr ar ei ôl yn Grŵp Cynefin a dymunwn y gorau iddo ef a'i deulu ar ei ymddeoliad."