£1.5m gan y Loteri i gefnogi diwylliant pum ardal
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud cais am statws Treftadaeth y Byd ar gyfer dyffrynnoedd llechi'r gogledd
Mae pum lleoliad yng Nghymru wedi cael gwybod y byddan nhw'n rhannu bron i £1.5m o arian gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi datblygiad diwylliannol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri y bydd yr arian yn "galluogi'r pum cymuned lwyddiannus i archwilio sut y gall eu treftadaeth unigryw helpu i greu dyfodol llwyddiannus".
Mae'n cynnwys £362,000 i Gyngor Gwynedd er mwyn helpu datblygu cais am statws Treftadaeth y Byd ar gyfer ardaloedd dyffrynnoedd llechi'r gogledd.
Y pedair ardal arall fydd yn elwa yw'r Barri, Llanelli, Y Preseli a Bae Colwyn.


Bydd y prosiect yn Y Barri yn dathlu hanes diwydiannol yr ardal
Gwneud Tonnau, Y Barri - £252,000
Nod y prosiect yw "defnyddio treftadaeth ac ymdeimlad o le yn y dref i ddod â chymuned a lle yn agosach at ei gilydd, i berchen eu stori a'i dathlu drwy ddiwylliant a chreadigrwydd yn llygaid y cyhoedd".


Nod Ein Cymdogaeth Werin yw ennyn diddordeb yng ngorffennol gwledig Sir Benfro
Ein Cymdogaeth Werin, Sir Benfro - £218,000
Gyda ffocws ar orllewin gwledig Cymru bydd y prosiect yn defnyddio "dulliau arloesol i ymgysylltu pobl leol yn weithredol gyda dathlu eu hetifeddiaeth a'u diwylliant, ac i greu cyfleoedd ar gyfer datblygu twristiaeth ddiwylliannol i gyfrannu at dwf economaidd a chymdeithasol".


Bydd y prosiect ar arfordir Bae Colwyn yn derbyn £400,000
IMAGINE, Bae Colwyn - £400,000
Bydd y prosiect yn ymgysylltu â chymunedau ac ymwelwyr tra'n "datblygu adnoddau i lunio gweledigaeth ar gyfer bywyd y Bae drwy raglen gwbl newydd o ymchwil creadigol, deialog wybodus a myfyrio yn y dyfodol".


Mae'r prosiect yn Llanelli yn sôn am "drawsnewid cadarnhaol", fydd yn cynnwys yr iaith Gymraeg
Eich Treftadaeth, Eich Cyfle, Eich Lle, Llanelli - £200,500
Mae hwn yn brosiect 23 mis fydd yn "archwilio ffyrdd cadarnhaol o ddefnyddio treftadaeth a diwylliant cyfoethog y dref ôl-ddiwydiannol mewn cynlluniau adfywio tymor hir".
"Mae eisiau sicrhau bod y trawsnewid cadarnhaol yn seiliedig ar hunaniaeth a lles cymunedol, yr iaith Gymraeg a chymeriad cymdeithasol," meddai llefarydd.

LleCHI, Gwynedd -£362,000
Mae Cyngor Gwynedd yn datblygu cais am statws Treftadaeth y Byd ar gyfer ardaloedd dyffrynnoedd llechi gogledd Cymru.
"Mae hwn yn ddathliad o'r cyfraniad gan ogledd Cymru i weddill y byd drwy gynhyrchu llechi, arbenigedd y gweithlu a throsglwyddo technoleg sy'n deillio o hynny dros y blynyddoedd," meddai llefarydd.