Cymro wedi ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Menorca

  • Cyhoeddwyd
Phillip RasmussenFfynhonnell y llun, IQE PLC

Mae tad i dri o Geredigion wedi ei ladd mewn gwrthdrawiad ddydd Sul tra'n seiclo ar wyliau ar ynys Menorca, Sbaen.

Roedd Phillip J Rasmussen, prif swyddog cyllid a chyfarwyddwr gyda chwmni technoleg gwybodaeth IQE, yn 47 oed ac yn byw ym mhentref Aberporth.

Mae dyn 25 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad ar ôl methu prawf anadl wedi'r gwrthdrawiad, wrth i Mr Rasmussen seiclo o bentref Alcaufar i Sant Lluis.

Yn wreiddiol o America, roedd gan Mr Rasmussen dŷ haf ar yr ynys.

Dywedodd Drew Nelson, prif weithredwr cwmni IQE, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd: "Mae newyddion am farwolaeth Phil wedi bod yn sioc ac yn loes i bawb yma yn IQE.

"Bydd effaith y drasiedi yn cael ei deimlo fwyaf gan deulu Phil, ac rydym yn cydymdeimlo yn ddwys gyda nhw yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn."